4pm: Paned a sesiynau olaf

Wedi bod yn brysur yn holi ar gyfer colofn newydd yng nghylchgrawn Golwg ar bobol sy’n trydar, a chydlynu sesiynau gyda’r ffotograffydd Emyr Young. Wedi dod i nabod pobol sy’n gweithio ym mhob agwedd ar y bywyd proffesiynol Cymraeg – un yn gweithio ar waith technegol Theatr Genedlaethol Cymru, un arall yn trefnu gwyl ffilmiau arswyd yn Aberystwyth.

Un sesiwn ddifyr ar ol cinio oedd un y digrifwr a’r cyflwynydd Daniel Glyn ar hunan-gynhyrchu rhaglenni a’u gwerthu ar y we, y tu hwnt i gyfyngiadau comisiynwyr y corfforaethau. I gloi, mae sesiwn (gyda dim ond 4 yno) ar gyfieithu Ubuntu – gyda geiriau fel ‘hotkeys’ yn pupro’r drafodaeth Gymraeg hynod arbenigol a thechnegol. Dyma’r bois sy’n gweithio’n ddyfal ar eu hunain bach yn Cymreigio’r teclynnau a’r gwefannau y mae pobol am eu defnyddio yn y dyfodol. Sgwrs fer gynne gyda Carl Morris, ar ol ei sesiwn ar gyfieithu system Android (y gystadleuaeth i iPhone cwmni Apple). Bydd yn gwneud hynny gyda’r nos, meddai wrtha i, o flaen y teledu.

Nawr mae sgwrs gan Iestyn Lloyd y dylunydd ar argraffu eLyfrau. Sesiwn boblogaidd, a phawb sy’n weddill wedi mynd yno. Un trydarwr yn synnu pa mor hawdd yw defnyddio rhaglen ePub ar dudalennau ar gyfrifiadur Mac.

Diwrnod prysur sy’n agor y meddwl a’r llygad, a’r dychymyg. Fel dywedodd y cynhyrchydd Gethin Tomos, mae’r we yn “gyfle i roi hwb creadigol i’r diwylliant Cymraeg.”

2pm: Sgwrs gan Rhys Llwyd ar greu ffilms ar gamera SLR, yn cyfeirio at ei ffilm ‘Brwydr Caerdegog’ sydd i’w gweld ar y we. Beth sy’n wych am ffilmio ar gamera yw eich bod yn “cael estheteg still ar ffilm,” meddai. Gwnaeth y pwynt bod amaturiaid yn gallu cystadlu o ran safon gyda phobol broffesiynol.

Ar y llaw arall, meddai Sara Penrhyn Jones, mae “rhai manteision cael camerau mawr. Symud a ffilmio ar yr un pryd.” “Dw i ddim yn ddyn camera,” cyfaddefa Rhys Llwyd, ond wrth wneud ei ffilm am Gaerdegog mae wedi profi bod “hyd yn oed pobol sy’n gwneud rhywbeth fel hobi yn gallu gwneud stwff da.” Dangosodd glip o’r ffilm, a gafodd ei chreu mewn diwrnod, ac mae’n iawn i frolio’i hun – mae ansawdd y ffilm yn ardderchog.

Lleucu Meinir, cynhyrchydd teledu a ffotograffydd, yn sgwrsio am bum munud am www.Sianel62.com Cymdeithas yr Iaith – sef sianel ar y we a fydd yn cael ei darlledu ar Chwefror 19 i ddathlu 50 mlynedd ers i Saunders ddarlledu ei ddarlith enwog ‘Tynged yr Iaith’. Bydd pobol ifanc ar hyd a lled Cymru yn gyfrifol am wneud ffilmiau bach eu hunain i’w hanfon at gydlynydd y sianel. Gofynnodd i gynadleddwyr a ydyn nhw’n credu bod yna angen am y math yma o beth. “Yn sicr,” dywedodd un, a dywedodd rhywun arall ei bod hi wedi ymchwilio i ymateb pobol ifanc i sianeli radio a theledu ac mai un o’r pethau ar goll yn y Gymraeg “yw dewis. Un o’r pethau mae plant yn ei hoffi yw mwy nag un sianel.”

12 tan ginio: ‘Haclediad’ – dyma bodcast preswyl y diwrnod, lle bydd y sesiwn gyfan yn cael ei olygu a’i becynnu’n bert ar gyfer y we – er mwyn i bobol allu ei lawrlwytho o iTunes ac ati yn nes ymlaen. Mae’r sgwrs yn y brif neuadd yn agored i bawb a’r tri sy’n arwain y drafodaeth yw Sioned Mills, Bryn Salisbury a Iestyn Lloyd. Sioned sy’n llywyddu – ac am ddawn arwain! Amseru da ac yn gallu cadw pethe’n ysgafn. Ac mae ganddi awydd rhyfeddol o gîci i Gymry Cymraeg ar y we ddod at’i gilydd i greu epig o ffilm wyddonias dros y we, a’r ffilmio a’r golygu a phopeth. Mae pobol yn Japan, meddai, hyd heddiw yn creu fersiynau o Gozilla eu hunain gydag anghenfilod o glai – beth sy’n ein hatal ni yng Nghymru?

Emyr Young, y ffotograffydd, yn dweud o’r gynulleidfa eu bod wedi gwneud hyn flynyddoedd maith yn ôl – wedi trosleisio Power Rangers ond na lwyddodd i gyrraedd S4C – “mae’n hynod cheesy.” Yn ôl Sioned Mills, dyna’r union beth fyddai’n gweddu, a gofynnodd i rywun sydd â’r gallu i drosi’r VHS yn fformat digidol.

Yn ystod y sgwrs, roedd negeseuon trydar pawb yn cael eu taflunio ar sgrin fawr, a’r rheiny yn sbarduno trafodaeth, “peth dewr iawn”, meddai rhywun wrtha i wedyn achos y gallai rhywun fod wedi dweud unrhyw beth yn gwbl fyw, o flaen pawb. Mi allai fod wedi bod yn anghysurus iawn. Mae’r panel yn pigo ar neges Gwydion Lyn (sy’n gweithio yn adran farchnata S4C), ‘sut y mae mesur llwyddiant blog Cymraeg?’ “Dw i wastad yn synnu bod unrhyw un yn gwrando arnon ni o gwbl,” meddai Sioned Mills, sy’n cadw blog o’r enw ‘Sgwennu Llefenni’. Ei gobaith hi yn y pen draw, meddai, yw profi “bod y we yn gallu bod yn lle cyffrous creadigol” i Gymry Cymraeg. Bryn Salisbury yn dweud bod gallu byw oddi ar eich enillion yn brawf reit dda o lwyddiant. Wrth gwrs mae hyn yn dibynnu ar yr hyn r’ych chi’n ei werthu neu’n ei hyrwyddo. Iestyn Lloyd yn cydio’r awenau ac yn digwydd crybwyll y bydd yn lawnsio gwefan newydd fis Mawrth –  www.mwydro.com – a fydd yn rhoi lle i leisiau “Cofis a Dyffryn Nantlle.”

11.30am: Sesiwn gan Hywel Jones (ar ran ei hun, er ei fod yn gweithio gyda Bwrdd yr Iaith) – mewn stafell â’i llond o gyfrifiaduron – ar ganfod defnydd y Gymraeg ar Twitter. “Mae adnabod iaith o 140 llythyren yn anodd,” meddai, gan ddweud bod arddull lafar y cyfrwng yn gwneud y Gymraeg yn anos i’w chanfod. Wedi mesur bod bron i 15,000 o negeseuon trydar yn cynnwys y gair ‘Cymraeg.’ Sôn am bethau cymhleth fel ‘code switching.’ Ian Johnson, trydarwr arall, yn cyfrannu i’r sgwrs a oedd wedi gwneud sampl ar ei liwt ei hun am y nifer sy’n trydar yn Gymraeg.

Sara Penrhyn Jones, gwneuthurwr ffilm, yn dweud os yw rhywun yn awdur Cymraeg – mae pobol yn disgwyl iddyn nhw drydar yn Gymraeg. “Dw i’n ymgyrchydd felly mae gyda fi llawer o ddilynwyr rhyngwladol ac mae hynny yn dylanwadu ar fy newis i o iaith.”

Sôn wedyn am ‘fetadata trydariad’. Mae pobol yn cymryd y pwnc yma o ddifri, wrth drafod statws yr iaith Gymraeg mewn oes dechnegol.

Manteisio ar bum munud tawel gyda Rhodri ap Dyfrig (tra’n ceisio datrys problemau technegol i gyrraedd y we!) i ddysgu am raglen ‘Storify’, lle y gallwch chi lusgo negeseuon trydar neu ffilmiau o’r we mewn i un tudalen sy’n eu cysodi’n destlus mewn ffeil. Y dyfodol i newyddiadura chwim?

10.30am: e-lyfrau: ‘Dim bygythiad ond cyfle’

Dechrau’r sesiwn gyntaf ar eLyfrau o dan arweiniad Delyth Prys o Ganolfan Bedwyr. Ry’n ni mewn dwylo da; mae hi wedi hen arfer â rhoi cyflwyniad deallus ar Powerpoint ac mae ganddi graffiau o bob math i brofi’i hystadegau a chanfyddiadau ymchwil yr ysgol ar alw’r gymuned Gymraeg am eLyfrau. Mae’n holi faint o’r dorf sy’n meddu ar declyn eLyfrau, ac mae tri chwarter yn codi eu dwylo. ‘Mae Kindle ar y blaen,’ meddai yn pwyntio at y graff pei. Ond yn y dorf ddethol yma, dim ond un neu ddau sy’n fodlon cyfadde bod ganddyn nhw Kindle – pobol eraill yn defnyddio teclynnau ar iPad ac iPod a ffôn Android. “Rhaid darparu ar gyfer y gacen gyfan, a nid mynd ar ol un farchnad unigol,” meddai. A beth am gyhoeddwyr? Ydyn nhw am golli allan gyda’r chwyldro darllen yma?

Sôn am broblemau a goruchafiaeth fformatau ‘caeedig’ Amazon Kindle ac iPad yn y fachnad cyhoeddi. “A llongyfarchiadau i’r Lolfa fan hyn i gael Amazon i dderbyn llyfrau Cymraeg,” meddai. Trafod wedyn fformat  EPUB – ry’n ni’n dechrau mynd yn dechnegol, a dyna pam rydyn ni yma.

Bwriad gan Ganolfan Bedwyr i gynnal gweithdai i gyhoeddwyr Cymru, yn ystod y gwanwyn ar haf eleni. A’r “newyddion mwya’ bore ma” meddai – maen nhw wedi cael nawdd gan Fwrdd yr Iaith i baratoi ffeiliau EPUB – sy’n fformat agored i gyhoeddi – ar gyfer Mawrth 2012 “Rhywbeth tebyg i Cysill ar lein” fyddan nhw, fel y gall cyhoeddwyr fwydo testun i mewn iddo yn barod i’w olygu a’i gyhoeddi.

“Mae cyhoeddwyr unigol yn rhydd i werthu llyfrau ar eu gwefannau eu hunain,” meddai. “Ond os y’ch chi wedi prynu Kindle, r’ych chi eisie mynd ar Amazon, clic clic a phrynu’r llyfr. Mae’n sefyllfa eitha’ cymhleth. O fod yn e-gyhoeddi, mae’r awydd i hunan-gyhoeddi yn cynyddu. Pam na all yr awdur roi’r llyfr ar ei wefan ei hun a gwneud llawer o bres? Wrth gwrs, dydi pethau ddim mor syml a hynny.” Rhaid sicrhau safon a phrofiad prawf-ddarllenwyr, meddai. “Ry’n ni eisiau cyhoeddi llyfrau da.”

Mae’r Cyngor Llyfrau am ddefnyddio gwasanaeth Gardners – sy’n defnyddio rhaglen o’r enw DRM ar Gwales. Mae yna ddadleuon dros ac yn erbyn hyn, meddai, y mae angen eu gwyntyllu maes o law. “Mae’n bwysig i ni ddeall y dadleuon… mae yna lot o fygythion o’r blaenau ni, a lot o gyfleoedd hefyd.”

Mae hi’n annog siopau bach Cymraeg a chyhoeddwyr i ystyried beth yw manteision y dechnoleg yma iddyn nhw.

“Mae e-lyfr am newid y ffordd r’yn ni’n sgrifennu nofel,” meddai Delyth Prys. Cyfle i gyhoeddwyr edrych ar eu catalogau am hen “drysorau” a rhai allan o brint, bydd hi’n rhwydd iawn ymhen amser i’w trosi yn elyfrau. Byddai’n wych cael llyfrau Emrys ap Iwan ar ffurf eLyfrau. Neu ryddhau’r hawlfraint i eraill eu cyhoeddi am ddim.

A dyma hi’n crynhoi ei sgwrs mewn pwyntiau byr ar y sgrin wen fawr. ‘Fformiwla llwyddiant = dewis o wahanol fformatiau + dulliau dosbarthu hwylus + amrywiaeth cynnwys difyr + prisiau deniadol + buzz = denu darllenwyr newydd at lyfrau Cymraeg.’ A’r neges? “Dim bygythiad, ond cyfle.”

A’r sesiwn nesa’? Sesiwn ar bobi cacennau ar y we.

Hacio’r Iaith – cyrraedd

9.20am: Cyrraedd Adeilad TH Parry-Williams y tu ôl i’r Ganolfan Gelfyddydau yn Aberystwyth, a gweld torf o bobol smart eu golwg yn sgwrsio â’i gilydd. Nifer fawr o ddynion yn gwisgo bag ysgwydd – i ddal y gliniadur wrth gwrs. Y tu ôl y ddesg groeso mae dau wyneb cyfarwydd o fyd y we Gymraeg – Sioned Mills a Mari Fflur – yno’n edrych yn weithgar a brwd. Mae sgrîn las y tu ôl iddyn nhw, gyda negeseuon trydar yn dechrau triglo’n araf, gyda phobol yn dweud eu bod nhw ar y ffordd i’r gynhadledd. Gall pobol sôn am y gynhadledd ar Twitter, trwy ddefnyddio ‘hashtag’ sef yr arwyddnod # gyda’r gair ‘haciaith’ yn ei ddilyn. Felly gallwch gael negeseuon byr gan gynadleddwyr yn fyw o’r achlysur. Coffi a chlonc gyda sawl un difyr. O’r diwedd, yn gallu rhoi wyneb i enw Maldwyn Pate, cyn-aelod o’r Blew, sy’n gweithio yn y maes dysgu i oedolion ac sy’n prysur gynllunio gwefan gyffrous newydd i addysgu ar lein, Y Bont.

Sesiynau sydd ar y gweill – iaith Twitter, S4C, dadansoddi pwer yr hashtag…