Mae yna dyndra yn fy mola wrth ymbaratoi at fynd i fy nghynhadledd Hacio’r Iaith gyntaf erioed yfory yn Aberystwyth.

Wn i ddim pam, yn iawn; ofn yr anghyfarwydd, mae’n siŵr. Ac mae llawer ym myd technoleg sy’n anghyfarwydd i mi. Do, dw i wedi meistroli Word, yn gallu llwytho lluniau digidol, gwagio fy nictaffon digidol, a thiwnio’r iPod i’r iTrip. Ond os dechreuwch chi sôn am Foursquare, Android, Eclipse, memes a quickfire – mae ’mhen a ’mola i’n dechrau troi.

Fe wnes i drydar pwyddwrnod ei fod yn teimlo fel fy mod ar fin mentro i ffau’r eLewod. Ond, fel yr atebodd Rhodri ap Dyfrig, arweinydd y frwydr hanfodol yma i Gymreigio’r we, dw i’n fwy tebygol o gwrdd â chathod dof a chyfeillgar na llewod rheibus, cas.

Ac wedi’r cwbwl, dw i’n nabod y rhan fwya’ o’r cynadleddwyr, ac yn gwybod eu hanes, a bron â bod yn nabod eu neiniau, o fod yn eu dilyn ar Twitter, ac o’r amheuthun Maes-e cyn hynny.

Nid cynhadledd arferol mohoni, yn ôl pob tebyg. Does dim amserlen benodol, ond croeso i unrhyw un sydd â rhyw awch i Gymreigio’r we sbarduno sgwrs fer am yr hyn sydd o ddiddordeb iddyn nhw.

Sut i goginio cacs bach a swper rhwydd hanner-awr, rhoi hen fideos archif gwerthfawr ar y we (odi, mae’n hen bryd i ni weld y clipiau yna o Rhys Ifans fel Hywel Pop ar raglenni Swigs y Steddfod ar-lein), ar ba fformat y dylid cyhoeddi eLyfrau, creu fideos cymunedol a ffilmiau ar y camera SLR crand ‘na gawsoch chi yn anrheg Dolig… mae lle i bopeth yn Hacio’r Iaith 2012.

Mae sawl un ar Twitter hefyd wedi bod yn ddigon clên dros y dyddiau diwetha’ i egluro’n weddol i mi ystyr ‘hacio’ – ‘to hack’ – yn y byd technoleg. Ryw chwarae o gwmpas â rhaglenni cyfrifiadurol, eu gwella a’u haddasu efallai. A dysgais fod y cyfryngau yn defnyddio ‘to hack’ ar gam yn aml iawn, yn hytrach na ‘to crack’ wrth sôn am gnafon clyfar yn tresmasu ar raglenni cyfrifiadurol ryw gorfforaethau mawr. Felly mae ‘Hacio’r Iaith’ yn golygu – os dw i’n iawn ac mae croeso i chi ‘nghywiro – trafod yr iaith yn nhermau technoleg, ei haddasu a’i siapio yn dwt at bwrpasau’r we. Ac roedd yr awgrym arall ar gyfer enw’r gynhadledd – ‘Gwersyll Gwe’ – yn llawer rhy dila, medde nhw wrtha i.

Mae yn amlwg bydd presenoldeb cryf yno gan y rheiny sy’n gweithio ar gyfer y cyfryngau am eu bara menyn – y rhai sy’n dod â Cyw i ni, yn dylunio’r gwefannau pert i’n hudo at raglenni ac ati. Yn cynllunio ein diddanwch at y dyfodol.

Difyr hefyd bydd dysgu am brofiadau’r rheiny sy’n ffilmio protestiadau a’u rhoi mas ’na i’r byd i gyd i’w gweld ar unwaith – fel ffilm ‘Brwydr Caerdegog’ gan Rhys Llwyd yn ddiweddar. Y dechnoleg yma, cofiwch chi, a sbardunodd ac a dynnodd sylw’r byd at y gwrthryfeloedd yn y gwledydd Arabaidd y llynedd, a gwyrdroi hanes.

Ac mae un cynadleddwr, Elliw Gwawr, wedi addo dod â chacennau gyda hi’r holl ffordd o Gaerdydd. Gwnewch y pethau bychain ynde.