Dr Gareth Griffith
Mae gwyddonydd o Brifysgol Aberystwyth wedi rhybuddio y gallai methu â gwarchod y mathau lleiaf a lleiaf adnabyddus o fywyd ym myd natur olygu bod y blaned yn colli cyfoeth o adnoddau biodechnolegol a chynefinoedd pwysig.

Mae Dr Gareth W Griffith o IBERS  – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig – yn galw am greu maes newydd chwyldroadol o gadwraeth natur.

Byddai’r Strategaeth Fyd-eang er Gwarchod Microbau yn anelu at warchod y mathau lleiaf a lleiaf adnabyddus o fywyd ym myd natur.

Mae’r organebau hyn yn cynnwys bacteria, ffyngau ac algae – mathau o fywyd sy’n aml yn cael eu hystyried ar gam yn ‘ddrwg’ neu ‘dda i ddim’.

Mae Dr Gareth W Griffith yn rhybuddio y gallai esgeulustod hyd yn oed wthio rhai anifeiliaid a phlanhigion prin yn nes at ddifancoll, meddai.

Dadl Dr Griffith yw fod pwyslais y maes cadwraeth ar hyn o bryd ar warchod planhigion ac anifeiliaid yn golygu y gallai llawer o ficrobau pwysig ddiflannu heb i neb wybod. Dim ond ar ôl eu colli y byddai pobl yn gweld eu gwerth.

Mae’r alwad gan Dr Griffith, uwch-ddarlithydd yn IBERS, wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn gwyddonol uchel ei barch, TREE (Trends in Evolution and Ecology) ac eisoes wedi denu sylw.

Byddai’r strategaeth newydd yn canolbwyntio ar warchod y meicro-organebau pitw hyn gan greu proses i fynd ochr yn ochr â’r Strategaeth Fyd-eang er Gwarchod Planhigion sydd eisoes ar gael o dan y Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol.

“Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o amrywiaeth anferth yr organebau bychain hyn, sydd fel rheol yn amhosib eu gweld â’r llygad, a llawer heb eu cofnodi eto, mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith mai nhw sy’n gyfrifol am lawer o’r prosesau sy’n cynnal ecosystemau’r blaned,” meddai.

“Yn y pen draw, mae pob gwaith cadwraeth yn cael ei gyllido gan y cyhoedd ac mae angen addysg hefyd er mwyn gwrthdroi safbwyntiau negatif (‘bacteria drwg’ neu ‘ffyngau gwenwynig’).”

Yn groes i’r farn gyffredin, mae’n dadlau nad yw llawer o’r micro-organebau ar gael yn eang a’u bod mewn peryg oherwydd bygythiadau i’w cynefinoedd.

Dylai’r strategaeth newydd ganolbwyntio’n arbennig ar warchod y nifer sylweddol o gynefinoedd y ddaear sy’n cynnwys mwy o ficrobau na dim arall, ac sydd ar hyn o bryd yn cael eu hesgeuluso am nad oes mathau mawr o fywyd yno.

“Yr amlycaf ymhlith y rhain yw’r cynefinoedd yn y pridd a’r mathau o bridd lle mae’r cymunedau microbiaidd mwyaf i’w cael,” meddai.

Mater arall o bryder brys yw’r llynnoedd o dan rew’r Antarctig. Mae gwyddonwyr o Rwsia eisoes wedi tyllu at ddyfnder o 4km ac o fewn metrau i wyneb Llyn Vostok, y trydydd llyn dŵr croyw mwyaf yn y byd.

“Mae’r micro-organebau brodorol yno, nad oes neb yn gwybod amdanyn nhw ar hyn o bryd ac sydd, efallai, yn unigryw, mewn peryg o gael eu distrywio gan fywyd o wyneb y ddaear,” meddai Dr Griffith.