Hafan Caerdydd.biz
Mae Sion Richards yn fyfyriwr ymchwil yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae’n gweithio ar brosiect ar y cyd â Golwg360 i ddatblygu newyddion hyper-leol ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyma’r ail flog yn trafod ei ymchwil, lle mae’n trafod ystyr y term ‘hyper-lleol’.

Drwy fy astudiaeth hyd yn hyn, un o’r termau sy’n codi’n rheolaidd wrth astudio newyddiaduriaeth fodern a dyfodol y maes ar y rhyngrwyd yw’r term ‘hyper-lleol’.

Buzzword y byd newyddiaduriaeth a sector marchnata newyddion, sydd yn ffocysu ar destunau, newyddion perthnasol a lleol i’r darllenwyr.

Ond sut mae newyddion a sylwebaeth leol yn gwahaniaethu rhwng newyddiaduriaeth leol, ar hyn sydd yn dod o dan derminoleg ‘hyper-lleol’?

Rwyf am egluro’n fras gan ddefnyddio rhai ffynonellau academaidd a blogiau i egluro beth yw ‘hyper-lleol’ o fewn y byd newyddiaduriaeth, yn ogystal â sut gall y derminoleg helpu’r darllenwyr i ddarganfod gwybodaeth a’i ddefnyddio, gan hefyd efallai wella safle Golwg360.

Diffinio hyper-lleol

Mae’r byd rydym ynddo i’w weld yn bodloni ar y gair ‘lleol’. ‘Prynwch yn lleol’, ‘bwytewch yn lleol’, ‘gwnewch beth bynnag yn lleol’. Mae hefyd delfryd ideolegol Jeremy Hunt o deledu lleol mewn 6 ardal yng Nghymru, (sy’n methu’r canolbarth yn llwyr) – gyda Bangor a’r Wyddgrug yn y Gogledd ac Abertawe, Caerdydd, Caerfyrddin a Hwlffordd yn y de.  Syniad sydd yn wych i’r cymunedau lleol, ond yn bersonol rwyf yn amau’n gryf a fyddant yn llwyddiant.

Ond sut mae diffinio lleol, a lle mae’r ffiniau yn dechrau a gorffen ym myd y we. Ac yn bwysicach byth – lle a sut mae ‘hyper-lleol’ yn addas yng Nghymru ac yn y Gymraeg?

Drwy ddarllen sawl erthygl academaidd a blogiau ar y we, nid oes term penodol yn egluro beth yw ‘hyper-lleol’, a beth yn union sy’n ei wneud yn wahanol i sylwebaeth leol. Er hyn mae sawl ffynhonnell yn honni fod hyper-lleol wedi cyrraedd i achub newyddiaduriaeth – maes sydd yn ôl un meddylfryd yn anffodus, ar ei gliniau.

Mae ymchwil academaidd Emily T. Metzgar, Prifysgol Indiana, U.D.A. David D. Kurpius, Prifysgol Louisiana, U.D.A. a Karen M. Rowley ,Prifysgol Louisiana, U.D.A. o’r enw ‘Defining Hyperlocal: Proposing a framework for discussion’ yn mentro creu diffiniad gan ymchwilio i’r maes yn yr America.

Mae’r darn yn cymharu chwe safle gwe, sydd yn honni eu bod yn safleoedd ‘hyper-lleol’. Gyda model ariannol pob un yn wahanol – rhai wedi ariannu a rheoli gan gwmnïau newyddiadurol sydd ag elw mawr, a rhai wedi eu rheoli gan ddinasyddion brwdfrydig am ddim arian o gwbl.

Yr hyn mae’r ymchwil yn datgelu yw bod y gwefannau yn rhannu chwe phrif elfen graidd er mwyn cael eu labelu’n safleoedd ‘hyper-lleol’.

  • Elfen Ddaearyddol ‘leol’
  • Defnydd y gymuned yn yr ardal ‘leol’
  • Adrodd newyddion gwreiddiol
  • Gynhenid i’r we
  • Llenwi bylchau newyddion sydd yn cael eu methu gan newyddiadurwyr
  • Ymgysylltiad dinasyddion gyda’i gilydd.

Mae’n dangos yn glir mai’r elfennau sydd yn bwysig ar gyfer creu safleoedd ‘hyper-lleol’ yw defnydd y cyhoedd, ei brwdfrydedd ar gyfer adrodd gwybodaeth, brwdfrydedd yn y gymdeithas a phlatfform ar lein i greu hyn.

Gwefannau ‘Hyper-lleol’ yn y Gymraeg

Enghraifft o wefan ’hyper-lleol’ drwy’r Gymraeg yw www.caerdydd.biz mae’r wefan yn rhoi sylw i ddigwyddiadau’r ddinas, gyda rhestr eang o bethau sy’n digwydd ar newyddion diweddaraf.

Mae www.borthcommunity.info yn enghraifft wych o safle ‘hyper-lleol’ tu allan i ddinas, sydd yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau a newyddion ardal Borth, ger Aberystwyth.

Mae’r ddwy wefan yn talu sylw i wybodaeth yr ysgolion lleol, newyddion gan y cynghorau lleol a materion cyfoes eraill sydd yn bwysig yn y cymunedau.

Mae defnydd y cyhoedd yn allweddol i’r ddwy enghraifft, wrth ddarparu’r cynnwys sydd yn allweddol i redeg y gwefannau, gan hefyd godi ymwybyddiaeth o’r digwyddiadau a newyddion yn yr ardaloedd maent yn gweithredu ynddynt.

Gellir dadlau fod tudalennau ar safleoedd megis Facebook yn ‘hyper-lleol’. Mae tudalennau newyddion am gymunedau ar gael yn rhwydd, lle gall y cyhoedd wneud sylwadau a chynnwys eu negeseuon, gwybodaeth ac ati ar y tudalennau hynny. Mae hyn yn wir hefyd gyda Twitter.

Gwerth ‘hyper-Lleol i Golwg 360 yn 2012

O ran Golwg360, y ddelfryd a gobaith yw ymestyn at gymaint o bobol ag sydd bosib trwy’r iaith Gymraeg. Mae’r newyddion, manylion digwyddiadau a gwybodaeth o bob cwr o Gymru yn allweddol i’r gwasanaeth mae Golwg yn darparu i’r genedl. Wrth gwrs maen anodd iawn i griw bach, sydd wedi’i wasgaru o amgylch Cymru weithio ar lefel ‘hyper-lleol’.

Fel y dywedais yn fy mlog cyntaf – bwriad ‘hyper-lleol’ Golwg360 yw creu hafan seibr ar gyfer gwybodaeth Gymraeg, gan gasglu gwybodaeth o wefannau ‘hyper-lleol’ eraill, a’u  dosbarthu i gynulleidfa eang. Bydd hyn o fudd i wefannau ‘hyper-lleol’ sy’n bodoli eisoes fel modd o yrru traffig at eu gwybodaeth hwythau.

Mae fy mhrosiect yn dechrau cymryd siâp wrth weithio gyda mentrau iaith, blogiau a gwefannau, wrth geisio casglu gwybodaeth a dilynwyr er mwyn ehangu gwefan Golwg360, ac i greu yn lleoliad byrlymus ar gyfer gwybodaeth o bob math ym myd y Cymry.

Gobeithio cawn weld datblygiadau yn ystod misoedd y gwanwyn.