Golwg 360
Croeso i wefan Golwg 360 ar ei newydd wedd. O heddiw ymlaen fe fyddwn ni’n cyflwyno nifer o welliannau er mwyn gwneud y wefan yn fwy deniadol a haws i’w defnyddio.

Rydyn ni wedi diweddaru dyluniad y wefan yn ogystal ag ychwanegu amrywiaeth o nodweddion newydd, gan gynnwys:

• Tudalen flaen gliriach, gan gynnwys rhagor o le ar gyfer straeon

• Cartref newydd i’r newyddion Chwaraeon a Chelfyddydau

• Rhyngwyneb hyblyg a hawdd ei ddefnyddio

• Y gallu i adael sylwadau ar bob stori

• Botymau er mwyn rhannu straeon gydag eraill ar Twitter a Facebook

• Y gallu i weld y straeon mwyaf poblogaidd a’r pynciau llosg

• Dolenni o fewn straeon er mwyn tynnu eich sylw at gynnwys tebyg

• Calendr a Blog newydd sbon danlli

Felly ewch i gael cip o amgylch y wefan – ac yna dewch yn ôl atom ni er mwyn rhoi eich barn! Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r wefan newydd.

Bydd nodweddion eraill yn cael eu cynnwys dros yr wythnosau nesaf wrth i chi ddod i arfer â’r cynllun newydd.

Cofiwch, mae unrhyw newid technolegol mawr yn gallu arwain at sgil effeithiau annisgwyl – felly os ydi pethau’n edrych o chwith i chi rhowch wybod ac fe wnawn ni’n gorau i drwsio’r broblem.