Llun: Laurence Dyke
Mae nwyon sy’n cael eu rhyddhau i’r awyr o ganlyniad i gynhesu byd-eang wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed, yn ôl asiantaeth dywydd y Cenhedloedd Unedig.

Mae Sefydliad Meteorolegol y Byd wedi rhybuddio bod lefel y carbon deuocsid yn yr aer ar ei lefel uchaf ers dechrau’r cyfnod diwydiannol yn 1750.

Mae’n golygu cynnydd o 20% yn lefelau ocsid nitraidd, 39% mewn CO2, a chynnydd o 158% mewn methan ers hynny.

Mae’r adroddiad yn rhoi’r bai ar losgi tanwydd ffosiledig, gostyngiad yn nifer y coedwigoedd sy’n gallu lleihau effeithiau CO2, a’r defnydd o wrteithiau.

Mae’r lefelau yn waeth nag oedd Sefydliad Meteorolegol y Byd wedi ei ddarogan yn 2001.