Fe gafodd y band roc Alffa sylw mawr pan ddaeth hi i’r amlwg fod eu cân ‘Gwenwyn’ wedi ei ffrydio miliwn o weithiau, a heddiw – ar Ddydd Miwsig Cymru – gall golwg360 ddatgelu bod y nifer yn gwrando wedi dyblu.

Ac mae Dion Jones yn ei chael yn anodd credu bod ‘Gwenwyn’ wedi ei ffrydio ar safle Spotify ddwy filiwn o weithiau erbyn hyn.

“Mae o dipyn bach yn od, mae miliwn yn big thing… ond dw i ddim yn gwybod.. dwy filiwn? Mae o’n mental,” meddai’r gitarydd wrth golwg360.

“Ond rydan ni’n gwybod rŵan mewn mis neu ddau ella fydd o’n cyrraedd tair miliwn. Mae o ‘chydig mwy normal!”

Cafodd y gân ‘Gwenwyn’, sef ail sengl y band a enillodd Brwydr y Bandiau yn 2017, ei chyhoeddi ar label Yws Gwynedd, Recordiau Cosh, ym mis Gorffennaf.

Ers hynny, mae’r ddeuawd roc a blws o Lanrug ger Caernarfon, sy’n cynnwys Dion Jones yn canu ac ar y gitâr, a Siôn Land ar y drymiau, wedi mynd o nerth i nerth.

Cafodd Alffa eu headline gig gyntaf yng Nghlwb Ifor bach ddiwedd mis Ionawr.

Roedd “yn noson dda iawn” yn ôl Dion Jones – “dwi’n meddwl wnaeth o werthu allan erbyn y diwadd, ag roedd o’n neis cael cymysgedd o gynulleidfa Cymraeg a Saesneg.”

“Hwnna ydi’r gig gorau rydan ni wedi chwarae dw i’n meddwl,” ychwanegodd.

Albwm a ride cymbal newydd

Tydi Dion Jones “ddim yn gwybod yn iawn” faint o bres yn union mae Alffa wedi ei wneud wrth i’w cân gyrraedd cynulleidfaoedd yn Ne America, Ewrop ac Awstralia.

Ond mi fydd yr arian yn cael ei fuddsoddi ar offer cerddorol newydd.

“Rydan ni am brynu ride cymbal newydd i Siôn,” meddai Dion Jones, “ mae ride cymbals yn uffernol o ddrud!”

Mae Alffa yn chwarae yng Ngholeg Cambria, Wrecsam, fel rhan o Ddydd Miwsig Cymru heddiw, gyda chefnogaeth gan Lewys.

Bydd eu sengl newydd ‘Pla’ ar gael ddydd Gwener nesaf.