Mae’r fyddin wedi’u galw i safle Sellafield yn Swydd Cumbria i waredu cemegion peryglus a gafodd eu darganfod yno neithiwr.

Ond yn ôl llefarydd, nid deunyddiau niwclear ydyn nhw.

Cafodd y cemegion eu darganfod yn ystod archwiliad o labordy ar y safle.

Yn eu plith mae cemegion fflamadwy all fod yn ansefydlog wrth fod yn yr awyr agored.

Mae lle i gredu eu bod nhw wedi cael eu storio yno yn 1992.

Mae rhan o’r safle ynghau am y tro ond mae’r staff wrth eu gwaith yn ôl eu harfer.

Mae disgwyl i ffrwydrad diogel gael ei gynnal ac mae llefarydd yn dweud nad oes achos i boeni.