Mae gwefannau gan gynnwys Facebook a Twitter yn wynebu gorfod cyfrannu arian at fesurau i fynd i’r afael â niwed ar-lein.

Dan gynlluniau sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw gan yr Ysgrifennydd Ddiwylliant, Karen Bradley; bydd cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn cael ei gorfodi i dalu treth benodol.

Nod y cynigion yw ceisio troi’r we yn safle mwy diogel gan dargedu bwlio ar-lein, a gallu plant i wylio a chael gafael ar bornograffi.

Mae’r gweinidog hefyd am weld gwersi arbennig yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion lle fyddai plant yn dysgu am ddiogelwch ar-lein.

“Rhaid cydweithio”

“Mae’r rhyngrwyd yn medru gwneud lles anferthol ond does dim modd gwadu ei bod hefyd wedi achosi llawer o ddioddefaint,” meddai’r Ysgrifennydd Ddiwylliant, Karen Bradley.

“Mae ein syniadau yn uchelgeisiol ond mae angen iddyn nhw fod. Gall y llywodraeth, diwydiant, rhieni a chymunedau gadw dinasyddion yn ddiogel ar-lein. Ond, rhaid cydweithio.”