Y Pab Ffransis
Mae’r Pab Ffransis wedi condemnio twf pornograffi ar-lein ac am weld plant yn cael eu diogelu rhag deunydd o’r fath sy’n frith ar y We.

Daw’r sylwadau wrth i’r Fatican ymchwilio i honiadau bod un o’u huwch genhadon wedi meddu ar ddelweddau pornograffig o blant.

Wrth ymweld â chynhadledd ryngwladol heddiw dywedodd y Pab ei fod yn cefnogi’r galw am sancsiynau llymach i bobol sydd yn cam-drin plant ar-lein.

Dywedodd Ffransis bod yr Eglwys Gatholig yn ymwybodol  bod ceisio cuddio problem cam-drin rhywiol yn “gamgymeriad difrifol”.