Mae Ceidwadwyr amlwg yng Nghymru wedi arwyddo llythyr yn gofyn i’r Prif Weinidog yn San Steffan gefnogi cynllun Morlyn Bae Abertawe.

Daw’r llythyr, sydd wedi’i arwyddo gan Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad ac arweinwyr cynghorau sir yng Nghymru yn dilyn oedi gan Lywodraeth Theresa May cyn penderfynu rhoi sêl bendith i’r cynllun lagŵn trydan.

Eu bwriad yw dwyn pwysau ar Theresa May a’i Chabinet cyn i’r blaid gwrdd ym Manceinion dros y penwythnos ar gyfer ei chynhadledd yn yr hydref.

Dywed y llythyr bod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gefnogi’r morlyn £1.3 biliwn er mwyn dangos ei hymrwymiad at Gymru.

Pwyso am gefnogaeth

“Mae gyda ni’r cyfle i ddelifro buddsoddiad isadeiledd hynod o boblogaidd yma yng Nghymru ac, wrth wneud hynny, lansio diwydiant blaengar i bweru Teyrnas Unedig ffyniannus y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd,” meddai’r llythyr.

Mae’r grŵp hefyd yn cyfeirio at adolygiad y cyn-weinidog Ceidwadol Charles Hendry oedd yn cefnogi’r cynllun gan ddweud y byddai’n costio llai na phris peint o laeth y flwyddyn i bob cartref.

“… Efallai bod morlynnoedd llanw yn wahanol i brosiectau ynni eraill ond gyda Brexit yn agosáu, rhaid i ni gael yr hyder i drafod yr heriau a gwneud y gorau o’r cyfleoedd sy’n dod gyda newid.

“Gall Morlyn Llanw Bae Abertawe adfywio economi Cymru.”

Byron nid Andrew

Nid Andrew RT Davies – arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad – yw awdur y llythyr, ond yn hytrach y cyn Aelod Seneddol dros y Gŵyr, Byron Davies, sy’n Gadeirydd y blaid yng Nghymru.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Prydain.