Fe allai gwyntoedd cryfion o hyd at 70 milltir yr awr ledu drwy Gymru dros nos.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn yng Nghymru a de orllewin Lloegr.

Maen nhw’n rhybuddio y gallai ostwng ychydig i 60 milltir yr awr erbyn bore Llun, ond fe fydd angen gofal ar y ffyrdd, yn enwedig ar bontydd Hafren.

Fe allai’r gwyntoedd cryfion bara tan ddydd Mercher mewn rhai ardaloedd, gan achosi glaw trwm ar adegau hefyd.