Fe allai band llydan mewn rhannau o Gymru wledig gael ei wella diolch i hwb o £56m gan Lywodraeth Prydain.

Nod y llywodraeth yw sicrhau bod gan 95% o gartrefi yng ngwledydd Prydain fynediad i fand llydan tra chyflym erbyn diwedd y flwyddyn.

96% yw nod Llywodraeth Cymru.

Ond fe fu oedi hyd yma oherwydd y trafferthion wrth osod ceblau ffibr optig ar gyfer 40,000 o gartrefi.

Yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr mae’r band llydan mwyaf araf yng Nghymru, ac mae’n bumed ar restr gwledydd Prydain gyda’i gilydd, sy’n cynnwys saith ardal yng Nghymru.