Tu allan i Arena Manceinion wedi'r ymosodiad (Llun: Peter Byrne/PA Wire)
Mae dyn o Wrecsam wedi cael ei garcharu am flwyddyn am bostio sylwadau tanllyd am Fwslemiaid ar Facebook, yn sgil ymosodiad Arena Manceinion.

Derbyniodd Keegan Jakovlevs, 22, ei ddedfryd yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau (Medi 7), ar ôl cyfaddef ei fod wedi cyhoeddi deunydd â’r bwriad o annog casineb crefyddol.

Postiodd y neges ychydig wedi ymosodiad Salman Abedi ar Arena Manceinion ar Fai 22 eleni, lle bu farw 22 o bobol ac y cafodd dwsinau eu niweidio.

“Beth am stopio eu gadael nhw i mewn i’r wlad?” meddai ei neges. “Beth am ladd pob Mwslim ryden ni’n ei weld?” Cafodd y neges ei dileu ychydig wedi iddo ei phostio.

Dim cuddio

“Mae’n ymddangos nad oedd goblygiadau niweidiol, ond mi roedd ei fwriad yn glir, ac mi blediodd yn euog unwaith gwelodd achos Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn ei erbyn,” meddai Pennaeth Adran Gwrth-Frawychiaeth y CPS, Sue Hemming.

“Ni ddylai pobol gymryd yn ganiataol eu bod yn medru cuddio ar gyfryngau cymdeithasol pan maen nhw’n annog casineb a thrais. Lle mae yna dystiolaeth mi fydd y CPS yn eu herlyn, ac mi fyddan nhw yn wynebu carchar o ganlyniad i hynny.”