Llun: PA
Mae cyfraith newydd yn cael ei gyflwyno sy’n golygu fod yn rhaid i gwmnïau ar y we ddileu gwybodaeth bersonol am bobol o dan geisiadau.

Daw hyn fel rhan o Fesur Gwarchod Data Llywodraeth Prydain ac mae’n targedu’n benodol y cyfryngau cymdeithasol.

Fe fydd yn golygu fod pobol yn gallu rheoli’n well sut mae cwmnïau’n defnyddio eu gwybodaeth bersonol, ac fe fydd gan gyrff gwarchod fwy o bwerau i roi dirwyon o hyd at £17 miliwn.

O hyn ymlaen fe all pobol ofyn am ddileu gwybodaeth wnaethon nhw gyhoeddi yn eu hieuenctid, ac fe fydd gan rieni mwy o ddylanwad dros y wybodaeth sy’n cael ei ryddhau am eu plant.

Fe fydd hefyd rhaid i gwmnïau gael caniatâd pobol i ddefnyddio gwybodaeth amdanyn nhw, yn hytrach na dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gasglu drwy dicio bocsys.

Mae disgwyl i’r mesur gael ei gyflwyno ym mis Medi wedi i Aelodau Seneddol ddychwelyd o’u toriad haf.