Sbwriel sy’n cael ei ollwng i’r môr, (Llun: cwmni eXXpedition)
Bydd criw o ferched sy’n hwylio o gwmpas gwledydd Prydain dros y mis nesaf yn codi angor yng Nghaerdydd i dynnu sylw at broblem sbwriel y môr.

Mae’r criw yn cynnwys gwyddonwyr, myfyrwyr, artistiaid, amgylcheddwyr a hwylwyr profiadol ac fe fyddan nhw’n gadael Plymouth ddydd Mawrth nesaf (Awst 8).

Eu bwriad yw tynnu sylw at y broblem gynyddol o sbwriel sy’n cael ei ollwng i’r môr, ac yn ystod eu mordaith 30 diwrnod fe fyddan nhw’n galw yn Belffast, Ynys Arran, Stornaway, Caeredin a Llundain.

‘Llygredd o’r tir’

“Efallai ein bod yn gweld effaith amlwg plastig a llygredd gwenwynig yn ardaloedd pellennig ein planed, ond yr hyn sy’n amlwg yw bod llygredd yn dod o’r tir – gan gynnwys y Deyrnas Unedig,” meddai Emily Penn un o sylfaenwyr y daith gan y cwmni eXXpedition.

Dywedodd eu bod am godi ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa gan annog pobol i fynd i’r afael â’r broblem.

Ychwanegodd yr Athro Richard Thompson o Brifysgol Plymouth y bydd y fordaith yn cyfrannu at ymchwil sy’n cael ei gynnal “i ddeall y broblem” ac “adnabod yr atebion posib o ran yr economi a’r amgylchedd.”