Mae Facebook yn dweud eu bod nhw wedi dileu oddeutu 66,000 o negeseuon o gasineb dros y deufis diwethaf.

Mewn neges blog, dywedodd y cwmni y gall dileu negeseuon ymddangos fel “sensoriaeth”, ond eu bod nhw’n ceisio egluro’n well pam eu bod nhw’n cymryd camau o’r fath.

Yn ôl Facebook, mae negeseuon o gasineb yn golygu ymosod ar rywun ar sail hil, rhywioldeb a nodweddion personol eraill.

Ar hyn o bryd, maen nhw’n dibynnu’n helaeth ar bobol yn adrodd am achosion o gasineb cyn cymryd camau i ddileu negeseuon.

Ond maen nhw’n bwriadu galw ar arbenigedd 3,000 o bobol y flwyddyn nesaf i adolygu negeseuon cyn penderfynu a ddylid eu dileu nhw. Mae ganddyn nhw 4,500 o bobol yn gwneud y gwaith hwnnw eisoes.

Ond mae’r cwmni’n cyfaddef eu bod nhw’n gwneud camgymeriadau o dro i dro, gan gynnwys dileu negeseuon a gafodd eu postio gan ymgyrchydd oedd yn tynnu sylw at rai o’r negeseuon oedd wedi cael eu postio’n ddiweddar.

Fe fu’n rhaid i Facebook ymddiheuro cyn dad-ddileu’r negeseuon, gan ddweud fod y cyfan “yn groes” i’r hyn maen nhw’n ceisio’i gyflawni fel cwmni.

Dilyn esiampl eraill

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Google eu bod nhw’n ceisio lleihau’r propaganda brawychol a fideos o natur eithafol ar eu safle YouTube.

Dywedon nhw hefyd eu bod nhw am gyflogi rhagor o bobol i fonitro cynnwys ar y we.