Mae ail ymosodiad seibr o fewn ychydig fisoedd wedi taro busnesau yn nwyrain Ewrop.

Busnesau hysbysebu a chyfreithiol, ynghyd â swyddfeydd llywodraethau sydd wedi’u heffeithio’r tro hwn, ynghyd ag ysbyty, cwmni cyffuriau a chwmni Mondelez sy’n berchen ar Cadbury.

Dywedodd y cwmnïau fod eu cyfrifiaduron ar draws y byd wedi cael eu heffeithio.

Cafodd problemau eu nodi yn yr Wcráin, lle cafodd cyfrifiaduron banciau a swyddfeydd y llywodraeth eu diffodd.

Daw’r ymosodiad wythnosau’n unig ar ôl i becyn cyfrifiadurol sy’n hawlio tâl pridwerth daro 200,000 o bobol mewn 150 o wledydd, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd y Ganolfan Ddiogelwch Seibr, sy’n rhan o asiantaeth GCHQ, eu bod nhw’n monitro’r sefyllfa ar hyn o bryd.

Mae lle i gredu bod y rhai sy’n gyfrifol am yr ymosodiad seibr eisoes wedi derbyn 27 taliad gwerth bron i 7,000 o ddoleri o fewn pump awr fel rhan o’r twyll.

Mae arbenigwyr wedi mynegi eu rhwystredigaeth fod ail ymosodiad seibr mwy cymhleth na’r un cyntaf wedi gallu digwydd mor fuan.