Fe fydd robot newydd, sy’n medru nofio, yn cael ei anfon i ymchwilio’r difrod wnaed i atomfa niwclear Fukushima Dai-Ichi yn ystod daeargryn a tswnami Mawrth 2011.

Mae datblygwyr yn Japan yn dweud eu bod yn bwriadu anfon y robot cyntaf trwy’r dyfroedd ymbelydrol i edrych ar Uned 3 y safle ym mis Gorffennaf eleni.

Mae’r robot tua’r un maint â thorth o fara, ac mae’n gallu ‘nofio’ trwy symud rhannau o’i gynffon. Mae ganddo hefyd olau a chamera, ac mae’n gallu mesur lefel yr ymbelydredd o’i gwmpas trwy ddefnyddio dosimedr.

Y nod ydi anfon y robot yn ddyfn i mewn i ganol yr adweithydd, gan dynnu lluniau a chasglu gwybodaeth am gyflwr yr adweithydd.

Mae llywodraeth Japan yn gobeithio dechrau symud tanwydd o’r safle yn fuan ar ôl Gemau Olympaidd Tokyo yn 2020.