Mae pump o weithwyr mewn canolfan sy’n trin plwtoniwm yn Japan, wedi dod i gysylltiad â lefelau uchel iawn o ymbelydredd, wedi i fag yn cynnwys deunydd ymbelydrol dorri yn ystod profion.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ddydd Mawrth yng nghanolfan ymchwil a datblygu Oarai, lle maen nhw’n defnyddio plwtoniwm gwenwynig iawn.

Mae’r awdurdodau yn y wlad yn ymchwilio i achos y digwyddiad.

Ond y gred ydi fod yna olion ymbelydrol wedi’u cadarnhau ar gyrff y pump gweithiwr, ac oddi mewn i drwynau tri ohyn nhw – prawf bod y rheiny wedi anadlu llwch ymbelydrol.

Mae gorsaf deledu NHK yn Japan yn adrodd fod lefelau ymbelydredd un o’r gweithwyr “gannoedd” o weithiau’n uwch na’r hyn sy’n cael ei gydnabod gan y ganolfan. Ond mae’r ganolfan yn dweud nad oes yr un o’r gweithwyr yn arddangos unrhyw broblemau iechyd.