Donald Trump - cyhoeddiad heddiw? (Michael Vadon CCA4.0)
Mae disgwyl y bydd Arlywydd yr Unol Daleithiau yn cyhoeddi heddiw a fydd y wlad yn tynnu yn ôl o gytundeb amgylcheddol Paris.

Fe fyddai hynny’n cael ei weld yn dolc anferth i’r cydweithio rhyngwladol er mwyn lleihau lefel nwyon tŷ gwydr.

Fe allai hefyd arwain at rwyg rhwng yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill.

Y disgwyl yw mai gadael fydd y penderfyniad, er fod yr Arlywydd yn  dweud ei fod yn gwrando “ar y ddwy ochr”.

Y cefndir

Cafodd y cytundeb ei sefydlu yn 2015 wedi blynyddoedd o drafod gan osod targedau mewn 200 o wledydd.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi awgrymu y bydd Donald Trump fwy na thebyg yn penderfynu cefnu ar y cytundeb – gan wireddu un o addewidion ei ymgyrch wleidyddol.

Fe fyddai cefnu ar y cytundeb yn sicr o niweidio perthynas yr Unol Daleithiau â llu o gynghreiriaid rhyngwladol, gan ymuno â Rwsia ar restr o ddwy wlad ddatblygedig sydd heb fod yn rhan o’r cytundeb.

Erfyn

Mae llu o ffigyrau a sefydliadau wedi erfyn ar Donald Trump i beidio â thynnu allan o’r cytundeb, gan gynnwys y Fatican, Arweinyddion Ewropeaidd, Google a hyd yn oed cwmnïoedd olew yr Unol Daleithiau.

Wrth siarad mewn cynhadledd yn Los Angeles dywedodd y cystadleuydd am yr arlywyddiaeth yn 2016, Hillary Clinton, fod safiad Donald Trump yn “hollol annealladwy.”