Mae sylwadau ar Facebook am ladd Donald Trump wedi’u gwahardd ar y wefan, er bod bygythiadau treisgar yn erbyn pobol eraill yn aml yn cael eu gadael i fod.

Dyna y mae dogfen ar lyfrynnau hyfforddi Facebook, sydd wedi’i chyhoeddi yn answyddogol yn y Guardian, yn dangos.

Mae’n nodi bod sylwadau treisgar fel galwadau i ladd yr Arlywydd Trump yn gorfod cael eu tynnu oddi ar y wefan am ei fod yn bennaeth gwlad.

Fodd bynnag, mae’r papur newyddion yn dweud nad yw sylwadau cyffredinol sy’n nodi y dylai rhywun farw yn cael eu hystyried fel bygythiadau credadwy.

Mae’r canllawiau hefyd yn dweud bod fideos o erthyliadau yn cael aros ar Facebook, cyhyd nad ydyn nhw’n cynnwys noethni, yn ôl y Guardian.

Fideos treisgar yn ‘iawn’

Mae’n debyg hefyd nad yw fideos o farwolaethau treisgar yn gorfod cael eu dileu am eu bod yn helpu i godi ymwybyddiaeth o faterion fel salwch meddwl.

Bydd Facebook hefyd yn caniatáu i bobol ffrydio eu hunain yn hunan-niweidio yn fyw am nad yw am “sensro na chosbi pobol sydd mewn gofid.”

Ailgynnau’r ddadl

Mae disgwyl i gynnwys y llyfryn ail-ddechrau’r ddadl rhwng rhyddid i hunanfynegi, diogelwch a sensoriaeth y rhyngrwyd.

Mae Theresa May wedi amlinellu cynlluniau i geisio taclo’r broblem, gan orfodi cwmnïau cyfryngau cymdeithasol i gymryd camau i stopio pobol rhag cael eu cyfeirio at wefannau anaddas.

Mae Facebook, Google, Twitter a Microsoft eisoes wedi addo i weithio gyda’i gilydd i daclo cynnwys eithafol ar eu gwefannau.

Mae Facebook wedi dweud eu bod nhw wedi cyflogi 3,000 o bobol yn ychwanegol i’r 4,500 sydd ganddyn nhw eisoes i adolygu’r adroddiadau am gynnwys anaddas maen nhw’n cael.

Mae’r wefan diogelu plant, NSPCC, wedi ymateb drwy ddweud bod angen i’r wefan gwneud mwy na hynny.