Llun: PA
Mae arbenigwyr wedi rhybuddio y gallai graddfa’r ymosodiad seibr ryngwladol, sy’n parhau i effeithio’r Gwasanaeth Iechyd  Gwladol (GIG), ddod i’r amlwg heddiw wrth i bobl ddychwelyd i’r gwaith.

Cafodd mwy na 200,000 o systemau mewn 150 o wledydd eu heffeithio gan yr ymosodiad seibr a ddechreuodd yn y Deyrnas Unedig a Sbaen ddydd Gwener cyn lledu i wledydd eraill.

Dywedodd Ciaran Martin, prif weithredwr y Ganolfan Ddiogelwch Seibr Genedlaethol, y byddai’r ymosodiad yn parhau i effeithio systemau ac y gallai rhagor ddod i’r amlwg heddiw.

Mae ymgyrch ryngwladol ar y gweill i geisio darganfod pwy oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.