Mae hyd at 150 o wledydd – a 200,000 o  gwmnïau – wedi cael eu heffeithio gan yr ymosodiad seibr byd-eang dros y dyddiau diwethaf.

Daw’r ffigurau answyddogol gan Europol, sy’n dweud ei bod hi’n rhy gynnar i wybod pam y digwyddodd yr ymosodiad.

Dywedodd ffynhonnell yn Europol nad oedd llawer o bobol wedi talu’r pridwerth oedd yn cael ei hawlio gan yr ymosodwyr.

Mae rhybudd y gallai rhagor o bobol gael eu heffeithio ddydd Llun wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r gwaith.