Mae’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) a China yn trafod y posibiliad o sefydlu gorsaf ar y lleuad yn ôl adroddiadau.

Gwnaeth yr ESA gadarnhau ddydd Mercher eu bod wedi bod yn cynnal trafodaethau, wedi i gyfryngau gwladol China ddatgelu bod y posibiliad yn cael ei ystyried.

Caiff yr orsaf arfaethedig ei ddisgrifio fel “Pentref ar y Lleuad” fyddai’n galluogi datblygiad twristiaeth ofod a lloer fwyngloddio.

Yn ôl Cyfarwyddwr Gadfridog ESA, Johann-Dietrich Woerner,  byddai hefyd modd lansio teithiau i blaned Mawrth oddi yno.

Mae cynllun gofod China wedi datblygu tipyn ers eu taith ofod cyntaf â chriw yn 2003, a blwyddyn nesa’ mae’r wlad yn bwriadu cynnal taith i ben arall y lleuad.

Hyd yma, nid yw China wedi medru ymuno â phrosiect yr Orsaf Ofod Rhyngwladol oherwydd pryderon yr Unol Daleithiau am agwedd filwrol cynllun ofod y wlad.