Chernobyl
Mae ymgyrchwyr gwrth niwclear yn ymgynnull wrth Bont Menai heddiw er mwyn nodi 31 mlynedd ers ffrwydrad niwclear gorsaf Chernobyl yn yr Wcrain.

Nod aelodau mudiad Pobl Atal Wylfa B (PAWB) yw cofio’r rhai bu farw yn sgil y trychineb ar Ebrill 26, 1986 ac i “danlinellu eu gwrthwynebiad” i gynlluniau cwmni Horizon i godi dau adweithydd niwclear newydd yn yr Wylfa.

Bydd ymgyrchwyr hefyd yn cynnal protest ger Swyddfeydd Penrallt, Cyngor Gwynedd, er mwyn gwrthwynebu newidiadau i Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn.

Yn ôl mudiad PAWB, mae Cyngor Môn yn ystyried dileu cymal sydd yn diogelu’r iaith rhag ceisiadau cynllunio mawr – yn sgil cais i’w ddileu gan Horizon.

Mae PAWB yn pryderu gall dyfodiad tua 8000 o weithwyr adeiladu o’r tu allan i Gymru i adeiladu Wylfa B, arwain at “newid yng nghydbwysedd ieithyddol” cymunedau Môn a Gwynedd.