Llwybrau ar y we (Llun: Parc Cenedlaethol Eryri)
Mae rhai o lwybrau cerdded Eryri bellach i’w gweld ar fapiau Google Street View ar y we, wedi i wirfoddolwyr a staff y Parc Cenedlaethol eu cofnodi â chamerâu ar eu pennau.

Dwy flynedd yn ôl, pan sefydlodd Google ‘Google Trekker’ i fentro i lefydd anhygyrch i gerbydau, cafodd 11 o lwybrau Eryri, gan gynnwys llwybrau’r Wyddfa, eu hychwanegu at yr adnodd.

Erbyn hyn, gyda chymorth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae 17 o lwybrau eraill wedi’u cofnodi.

Bu gwirfoddolwyr a staff yr Awdurdod yn cofnodi golygfeydd ar gyfer y wefan gyda phecyn 22kg ar eu cefnau a glôb yn cynnwys 15 o gamerâu ar eu pennau.

Dangos y dirwedd

Rhan o fwriad cynnwys y llwybrau yw i bobol gael syniad o natur y dirwedd a gwybod pa lwybrau sy’n addas iddyn nhw.

“Y gwir amdani yw bod gennym gymaint o lwybrau ym mhob cwr o’r Parc Cenedlaethol sy’n addas ar gyfer pob math o alluoedd, ac un o’r manteision i gael adnodd fel y Google Street View ar lwybrau Eryri yw ei fod yn dangos ystod yr amrywiaeth hwnnw,” meddai Mair Huws, Pennaeth Adran Wardeniaid a Mynediad yr Awdurdod.

“Fe fyddai’n wych gweld teuluoedd o bob gallu yn mwynhau’r llefydd arbennig hyn dros y Pasg – mae ‘na rywbeth yma i bawb yn Eryri.”

Y llwybrau diweddaraf i’w cofnodi yw:

·      Llyn Tegid, Y Bala – De

·      Llyn Tegid, Y Bala – Gogledd

·      Tomen y Mur

·      Abergwyngregyn – Rhaeadr Fawr

·      Llwybr Llanfairfechan

·      Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan

·      Llyn Dinas

·      Llwybr Ianws

·      Crimpiau

·      Lôn Las Ogwen  (Ogwen i Gapel Curig)

·      Llwybr Cynwch

·      Llwybr Cnicht

·      Llwybr Pren Traeth Benar

·      Llwybr Craig y Ddinas

·      Llwybr Llyn Traws

·      Llwybr Afon a Llyn, Y Bala

·      Cylchdaith Croesor