Bydd gwaharddiad ar ddyfeisiau electronig ar deithiau awyr o chwe gwlad Fwslimaidd yn cael ei gyflwyno o fewn y dyddiau nesaf.

Pan ddaw’r gwaharddiad i rym ni fydd teithwyr yn cael cario gliniaduron a dyfeisiau electronig mawr mewn bagiau llaw ychwanegol ar deithiau o Dwrci, Libanus, Jordan, yr Aifft, Tunisia a Sawdi-arabia.

Cafodd y penderfyniad ei orchymyn gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, ar ddydd Mawrth yn dilyn cyfres o gyfarfodydd ag arbenigwyr diogelwch hedfan.

Nid yw’n glir os daw’r gwaharddiad fel ymateb i fygythiad terfysgol gyffredinol neu fel ymateb i ymosodiad penodol gan grŵp brawychol.

Daw’r penderfyniad yn sgil mesur tebyg cafodd ei gyhoeddi gan awdurdodau’r Unol Daleithiau sy’n effeithio teithiau awyr o wyth gwlad Fwslimaidd.

Bydd y gwaharddiad yn effeithio teithiau awyr cwmnïoedd British Airways, easyJet, Jet2.com, Monarch, Thomas Cook a Thomson, a dyfeisiau gan gynnwys tabledi electronig a dyfeisiau gemau cyfrifiadurol.