Mae menter newydd yn cael ei lansio yn Abertawe heddiw i fynd i’r afael â thrin dŵr gwastraff er mwyn ei ailddefnyddio.

Mae’r fenter ‘PURO’ wedi’i sefydlu ar y cyd â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant a’r cwmni Power and Water, a bydd wedi’i lleoli yn swyddfeydd Technium 1 ardal Glannau Abertawe o’r Brifysgol.

Bydd y gwaith yn ceisio darparu gwasanaethau cynaliadwy drwy dechnoleg lân i ddiwallu’r galw cynyddol ar draws y byd am ddŵr glân a diogel.

Mae’r Brifysgol yn gobeithio y bydd yn creu cyfleoedd i fyfyrwyr fanteisio ar yr ymchwil hwn a’i asio â’u hastudiaethau eu hunain.

Diwrnod Dŵr y Byd

Mae’r Brifysgol wedi cydweithio â’r cwmni Power and Water o Abertawe sy’n arbenigo ym maes datblygu atebion i drin dŵr gwastraff gan ddefnyddio trydan, ac mae Prif Swyddog Gweithredol y cwmni, Philip Morgan, yn Athro Ymarfer yn y Brifysgol.

“Mae’r bartneriaeth â’r Athro Morgan a Power & Water yn enghraifft wych o’r modd rydym yn ailddiffinio ein harlwy i sicrhau bod ein myfyrwyr a’n graddedigion yn datblygu’r sgiliau penodol y mae ein cyflogwyr yn galw amdanynt,” meddai’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol.

“Mae’n dynodi newid sylweddol i addysg y brifysgol wrth iddi annog cyd-berchnogi a chyd-ddatblygu’r cwricwlwm.

“Mae’r bartneriaeth eisoes yn arwain at ddatblygiadau cyffrous ym maes technoleg werdd ac atebion cynaliadwy sydd â’r potensial i newid pethau’n sylfaenol ar draws y byd,” ychwanegodd.

Mae heddiw (Mawrth 22) yn Ddiwrnod Dŵr y Byd.