Llun: PA
Mae Canolfan Genedlaethol Diogelwch Syber yn cael ei hagor yn swyddogol heddiw ymysg rhybuddion fod cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar-lein.

Mae wedi dod i’r amlwg fod y Deyrnas Unedig yn wynebu degau o ymosodiadau syber bob mis, gyda thua 2 miliwn o droseddau camddefnydd cyfrifiadurol y flwyddyn yn cael eu cynnal.

Bwriad y ganolfan newydd (NCSC) sydd wedi’i lleoli yn Llundain yw mynd i’r afael â diogelwch cenedlaethol syber ymysg pryderon y gallai hacwyr neu frawychwyr ddifrodi’r economi a’r isadeiledd hefyd.

Daw’r ganolfan yn dilyn cyhoeddi strategaeth pum mlynedd Diogelwch Syber Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2016.

Bydd yn cael ei agor gan y Frenhines, ac mae disgwyl i’r Canghellor Philip Hammond rybuddio busnesau i “finiogi eu hagwedd” at fygythiadau ar-lein.