Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi cyfrannu at ddatblygu prawf pi-pi sy’n medru mesur pa mor iach yw rhywun.

Mae’r prawf pum munud o hyd yn mesur marcwyr biolegol mewn pi-pi ac yn rhoi syniad o faint o fraster, siwgr, ffibr a phrotein mae person wedi’i fwyta.

Ynghyd â gwyddonwyr o Goleg Imperial Llundain a Phrifysgol Newcastle, fe wnaeth ymchwilwyr Aberystwyth gasglu samplau gan bron i 300 o bobol o wledydd Prydain a Denmarc.

Er bod y gwaith yn ei ddyddiau cynnar, mae’r tîm yn gobeithio y bydd y prawf yn gallu cael ei ddatblygu i olrhain dietau cleifion. Gallai hyd yn oed gael ei ddefnyddio mewn rhaglenni colli pwysau i fonitro faint o fwyd mae rhywun yn ei fwyta.

Esboniodd yr Athro Elaine Holmes, cydawdur gan yr Adran Llawfeddygaeth a Chanser yn y Coleg Imperial, bod gobaith y bydd y prawf ar gael i’r cyhoedd o fewn y ddwy flynedd nesaf.

“Y syniad yw y bydd sampl wrin yn cael ei gasglu yn y cartref a’i gyflwyno i ganolfan leol ar gyfer ei ddadansoddi. Rydym yn rhagweld y bydd yn cael ei ddefnyddio gan ddietegwyr i helpu i lywio anghenion dietegol eu cleifion, neu hyd yn oed gan unigolion sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy am y berthynas rhwng diet a’u hiechyd.”