Mae gwyddonwyr wedi dod i gasgliad fod y lleuad yn hŷn na’r disgwyl – a hynny wedi iddyn nhw fod yn astudio creigiau a phridd a gafodd eu casglu ar ymweliad Apollo yn 1971.

Mae tîm o ymchwilwyr o’r Unol Daleithiau wedi cyhoeddi fod y Lleuad wedi’i ffurfio o fewn 60 miliwn o flynyddoedd wedi cread cysawd yr haul, sy’n golygu ei bod tua 4.51 biliwn o flynyddoedd oed.

Roedd amcangyfrifon blaenorol wedi awgrymu bod rhwng 100 miliwn i 200 miliwn o flynyddoedd wedi pasio ers cread cysawd yr haul nes y daeth y Lleuad i fod.

Fe fu’r gwyddonwyr yn cynnal arbrofion ac yn dyddio’r sampl o’r mwyn zircon oddi mewn i’r creigiau a’r pridd a gasglwyd gan Apollo 14. Roedd y darnau o zircon yn fach iawn, iawn – dim mwy na gronyn o dywod – ond yn ddigon i gynnal profion dyddio wraniwm-plwm.

“Mae’r lleuad yn llawn hud,” meddai adroddiad y gwyddonwyr sy’n gweithio ym Mhrifysgol Los Angeles. “Ac mae’r Lleuad yn allweddol o ran deall sut y daeth ein Daear brydferth ni i fodolaeth.”