Yr hollt yn y rhew (Llun Prifysgol Abertawe)
Mae gwyddonwyr o brifysgol yng Nghymru wedi rhybuddio bod mynydd iâ anferth yn yr Arctig ar fin torri’n rhydd – arwydd arall o newid hinsawdd.

Ac yntau chwarter maint Cymru, dyma fyddai un o’r 10 mynydd iâ mwya’ erioed i dorri’n rhydd ac fe fyddai’n arwain at “newid sylfaenol i dirwedd y Penrhyn Antarctig”, meddai’r ymchwilwyr o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe.

Mae’r hollt rhwng y mynydd iâ a rhan mwya’ gogleddol yr Antarctig, Larsen C, wedi lledu o fewn y mis diwetha’ yn ôl yr Athro Adrian Luckman o’r Brifysgol sy’n arwain Prosiect Midas y Deyrnas Unedig, gyda Dr Martin O’Leary o Abertawe hefyd yn cyfrannu at yr ymchwil.

Rhagfyr – ‘tyfu’n sydyn’

“Ar ôl rhai misoedd o gynyddu’n gyson fesul ychydig ers y digwyddiad diwethaf, yn sydyn, tyfodd yr hollt 18km ymhellach yn ystod ail hanner mis Rhagfyr 2016,” meddai Adrian Luckman.

Esboniodd fod y mynydd iâ yn 5000km sgwâr – chwarter maint Cymru – ac mai dim ond llain o 20km o iâ sy’n ei atal rhag torri’n rhydd.

“Bydd yn syndod mawr i mi os nad yw hyn yn digwydd dros y misoedd nesa’,” meddai, gan rybuddio y gallai hynny arwain at chwalu rhagor ar Larsen C gan effeithio ar rewlifau pellach i mewn i’r Antarctig a chodi lefelau’r môr.

‘Ansefydlogi rhewlifau’

Pryder y gwyddonwyr yw fod silff, neu ysgafell, Larsen C yn allweddol o ran dyfodol y rhewlifau hefyd.

“Mae hyn yn golygu y bydd yr ysgafell iâ cyfan yn llai sefydlog,” meddai Martin O’Leary. “Pe bai’n cwympo, fyddai dim yn dal y rhewlifau yn ôl a byddent yn dechrau llifo’n eithaf cyflym.”

Mae sawl ysgafell iâ wedi hollti yn rhannau gogleddol yr Antarctig yn ystod y blynyddoedd diwetha’, gan gynnwys Larsen B a chwalodd yn 2002.