Fe fydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi mwy na £4 miliwn mewn rhwydwaith gwyddoniaeth a thechnoleg newydd er mwyn codi safonau yn ysgolion Cymru.

Daeth cadarnhad gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, sy’n dweud y bydd y fframwaith yn anelu i godi safonau dysgu a gwella profiad disgyblion o’r meysydd yn yr ysgol.

Fe fydd hefyd yn golygu bod ysgolion yn cydweithio â phrifysgolion, consortia addysg, sefydliadau addysg bellach ac arbenigwyr eraill.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi mwy nag £1.6 miliwn mewn pynciau STEM, gan newid pwyslais o’r BTEC i TGAU.

Bydd y buddsoddiad yn elwa disgyblion 3-18 oed.

Deall gwyddoniaeth yn “hanfodol”

Mewn datganiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams fod deall gwyddoniaeth yn “hanfodol”.

“Mae deall gwyddoniaeth yn hanfodol i’n pobol ifanc, o’r dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio i’r ffordd maen nhw’n cyfathrebu hyd at yr egni maen nhw’n ei ddefnyddio mewn byd sy’n newid yn gyflym.

“Mae hi hefyd yn hanfodol i Gymru a sut ry’n ni’n datblygu’n heconomi.”

Ychwanegodd fod nod Llywodraeth Cymru’n mynd y tu hwnt i “arbrofion syml”, ac mai’r nod yw “gallu rhesymu’n wyddonol a deall gwerth camau gwyddonol”.

Dywedodd fod “canlyniadau PISA yn cyd-fynd â’n dealltwriaeth ein hunain nad ydyn ni le’r ydyn ni am fod”.