Ifan Morgan Jones
Mae gwefan newyddion ‘gymunedol’ ar y ffordd i gael ei sefydlu a hynny er mwyn creu llais newydd ym myd newyddion Cymru.

Y bwriad yw cau’r “diffyg democrataidd” yng Nghymru a goresgyn rhai o’r problemau sy’n wynebu’r wasg Gymraeg heddiw.

Fe wnaeth y cyn newyddiadurwr a’r darlithydd, Ifan Morgan Jones, sefydlu tudalen codi arian neithiwr er mwyn codi arian i’r fenter ac mae bellach wedi codi bron i £1,300 dros nos.

Saesneg fydd cyfrwng iaith gwefan Nation.Cymru pan fydd yn cael ei sefydlu, ond mae bwriad cynnwys deunydd Cymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg gan “normaleiddio” gweld deunydd y Gymraeg.

Problemau’r wasg Gymreig

“Rydym i gyd yn ymwybodol o’r problemau sy’n wynebu’r cyfryngau masnachol yng Nghymru,” meddai Ifan Morgan Jones yn ei flog.

“Gyda phoblogaeth fach a chymharol dlawd [o fewn cyd-destun y Deyrnas Unedig],  gall marchnad y cyfryngau Cymreig ddim cystadlu â’r wasg yn Llundain, problem sydd wedi gwaethygu gan ddirywiad gwerthiant print.

“Er mwyn cau’r ‘diffyg democrataidd’ sy’n bodoli yng Nghymru, mae’n rhaid i ni greu byd cyhoeddus Cymru. Mae byd cenedlaethol o’r fath yn bodoli ar dudalennau’r cyfryngau Cymraeg, mewn cylchgronau fel Barn, Golwg, O’r Pedwar Gwynt a gwefannau fel golwg360.

“Mae perygl fodd bynnag bod y cyhoeddiadau hyn yn pregethu i’r cadwedig – y dosbarth canol Cymraeg. Dyma’r bobol sydd eisoes yn poeni am ddechrau ein democratiaeth Gymreig.”

Dywed fod y cyfryngau Saesneg yng Nghymru yn “rhanbarthol ei natur” ac mai dim ond “tua 5%” o bobol Cymru sy’n cael eu newyddion gan gyfryngau yng Nghymru.

“Y canlyniad yw bod gan bobol Cymru ychydig iawn o ddealltwriaeth neu ddim o gwbl am eu sefydliadau gwleidyddol cenedlaethol. Mae hynny’n wael i ddemocratiaeth ac yn wael i lywodraethu hefyd.”

Gofyn am gyfraniadau

Yn ei flog, mae Ifan Morgan Jones hefyd yn galw ar bobol i gyfrannu erthyglau o dro i dro er mwyn sicrhau nad yw’r “baich” yn disgyn ar un person.