Mae heddlu Chicago yn ymchwilio i griw o bobol a ffilmiodd eu hunain yn arteithio dyn ag anghenion arbennig ar Facebook Live.

Yn ôl Uwch Arolygydd yr heddlu, Eddie Johnson, mae pedwar person wedi cael eu harestio – ddau ddyn a dwy ddynes – dros y fideo “ffiaidd”.

Yn y fideo, mae’r criw yn cael eu clywed yn rhegi am Donald Trump a “phobol wyn.”

Dywedodd yr heddlu bod y dioddefwr yn gwella ac nad yw hi’n glir eto os oedd yr ymosodiad yn un hiliol.

Mae’r fideo hefyd yn dangos poteli o alcohol yn yr ystafell yn ystod yr ymosodiad.

Mae’n debyg bod y dioddefwr yn adnabod un o’r pedwar sy’n cael eu hamau.

Cafodd y fideo ei roi ar Facebook i ddechrau, ond cafodd ei dynnu o’r wefan gymdeithasol, gyda llefarydd yn dweud nad yw’n “caniatáu i bobol ddathlu na dyrchafu troseddau ar Facebook.”