Fe ddaeth y datganiad swyddogol heddiw mai cwmni Golwg Newydd sydd wedi ennill y tendr i gynnal y Gwasanaeth Newyddion Digidol Cymraeg am y tair blynedd nesaf.

Gwahoddwyd cynigion i redeg y Gwasanaeth Newyddion Digidol Cymraeg ddechrau’r haf a chynhaliwyd cyfweliadau yn Aberystwyth yr wythnos ddiwetha’. Mae Golwg Newydd Cyf. wedi cynnal gwasanaeth Golwg 360 ers ei sefydlu yn 2008.

“Mae rhedeg gwasanaeth newyddion digidol yn her barhaus o ran cynnal gwasanaeth cyson, bron drwy’r dydd bob dydd; a dewis, dethol a datblygu’r cyfryngau diweddaraf mwyaf addas i gyflwyno’r newyddion hwnnw,” meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr, Cyngor Llyfrau Cymru.

“Mae’r Gwasanaeth Newyddion Digidol a noddir gan Gyngor Llyfrau Cymru yn ychwanegiad pwysig i bliwraliaeth y gwasanaethau sydd ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru.”

Bydd cytundeb Golwg Newydd yn dechrau Ebrill 1, 2017 ac yn rhedeg tan ddiwedd Mawrth 2020.

Annibynnol 

“Rydan ni’n falch iawn o ennill y tendr am dair blynedd arall – mae’n bleidlais fawr o hyder yn Golwg360 sydd wedi cynyddu’n gyson o ran poblogrwydd ers y dechrau, ac yn dal i wneud,” meddai Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg Newydd.

“Mae’n her ac yn gyfrifoldeb mawr – dyma’r unig wasanaeth newyddion cyflawn ar y We yn Gymraeg, efo newyddion y byd ochr yn ochr a newyddion Cymru, a dyma’r unig wasanaeth newyddion annibynnol yng Nghymru sy’n cynnig gwasanaeth trwy’r dydd bob dydd.

“Mae llais annibynnol, Cymraeg a Chymreig yn bwysicach nag erioed.

“Yr her i ni am y tair blynedd nesa fydd adeiladu ar lwyddiant y saith mlynedd sydd wedi bod a chwilio am adnoddau ychwanegol i wneud pethau newydd a fydd yn ehangu ein gwasanaethau ni ac yn cynyddu ein cynulleidfa ymhellach.”