Guto Roberts
Mae’r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn mynd i ŵr sydd wedi cyfrannu’n helaeth at berthynas yr Eisteddfod â gwyddoniaeth dros y blynyddoedd.

Mae Guto Roberts o Lantrisant wedi gwasanaethu ar bwyllgor canolog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol ers ugain mlynedd, a bu ynghlwm â sefydlu’r babell wyddoniaeth gyntaf ar y maes yn 1971.

Dywedodd wrth golwg360 ei bod yn “allweddol” i wyddoniaeth gael lle blaenllaw yn yr Eisteddfod ymysg y celfyddydau a’r cystadlu.

Yr iaith a gwyddoniaeth

Dywedodd ei fod yn fraint i dderbyn yr anrhydedd, “ac yn fwy o fraint i weld gwyddoniaeth yn cael lle blaenllaw yma,” meddai.

“Os ydy’r iaith Gymraeg am barhau mae’n rhaid iddi fod yn fodern a chwmpasu pethau fel gwyddoniaeth a thechnoleg,” ychwanegodd.

Yn wreiddiol o Edern ym Mhen Llŷn, astudiodd Guto Roberts ffiseg yn y brifysgol yn Aberystwyth.

Bu hefyd wrth wraidd sefydlu’r Gymdeithas Wyddonol Gymraeg gyntaf erioed yn y Brifysgol honno, a bu’n bennaeth Ffiseg ym Mhrifysgol Morgannwg.