Fe fydd cynllun newydd i addasu ceir heb yrwyr ar gyfer defnydd ar ffyrdd yn cael ei brofi yn Llundain dros yr haf.

Mae disgwyl i Labordy Ymchwil Trafnidiaeth (TRL) Prydain addasu cerbydau sydd ar hyn o bryd yn cludo teithwyr i faes awyr Heathrow.

Mae’r podiau sydd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn Terminal 5 yn edrych yn debyg i gerbydau trên bychan, ac maen nhw’n cludo pobl ar hyd trac.

Ond y gobaith yw ceisio addasu’r dechnoleg fel bod modd iddo symud ar hyd ffyrdd go-iawn heb draciau, ac fe fydd yr arbrawf yn cael ei rhoi ar waith yn ardal Greenwich y brifddinas eleni.

Mae’r prawf yn rhan o brosiect Gateway gwerth £8m, ac fe fydd cwmnïau fel Westfield Sportscars, Heathrow Enterprises ac Oxbotica yn rhan o’r datblygiad.

Dywedodd yr Athro Nick Reed, cyfarwyddwr Academi TRL, eu bod yn disgwyl i’r cerbydau gael eu defnyddio “mewn sawl dinas ar draws y byd” os yw’r arbrawf yn llwyddiannus.