William Jones
Mae mathemategydd o Gymro yn cael dipyn o sylw heddiw, wrth i’r byd gwyddoniaeth nodi Diwrnod Rhyngwladol Pai.

Yn 1706, William Jones o Sir Fon oedd y cynta’ i ddefnyddio’r llythyren pai o wyddor Groeg i ddynodi’r ateb gewch chi o rannu’r pellter o gwmpas ymyl unrhyw gylch (y cylchedd) gyda’i led (diamedr).

Fe sylweddolodd William Jones, o Lanfihangel Tre’r Beirdd, nad ydi’r cysonyn, pai, byth yn gorffen. Mae’n cael ei gwtogi i’r gwerth 3.141592, ond mae nifer y rhifau sy’n dilyn y pwynt degol yn ddiddiwedd.

Ganwyd William Jones ar dyddyn bychan yn 1674 ger pentre’ Capel Coch, nepell o dre’ Llangefni.

Y gred ydi iddo ddewis y llythyren pai oherwydd mai ‘p’ ydi llythyren gynta’r geiriau ‘periphery’ a ‘perimeter’.