Fideo Wyth yng Ngŵyl Golwg

Diweddarwyd  


Elidir Jones a Df Prys, fu'n rhedeg y Stafell Ddigidol yng Ngŵyl Golwg
Daf Prys sydd yn cloriannu beth ddysgodd e a Fideo Wyth o sesiynau digidol yr Ŵyl …

Mi wnaeth Gŵyl Golwg ddysgu lot i ni yn Fideo Wyth, neu efallai, ailddysgu pethau ‘da ni’n gwybod yn barod. Weithiau dwi’n teimlo’n undonog dros ben; mwydro fel rhyw fwgan haerllug am gemau cyfrifiadur.

Ac wedyn dwi’n mynd i Ŵyl Golwg a ‘dwi’n gweld faint o waith sydd yna i neud, gyda lot o bobl dal efo dim diddordeb o gwbl yn y maes. Ffaith syml: mae ‘na fwy o arian yn cael ei wario yng Nghymru ar y diwydiant gemau cyfrifiadur na sydd ar y diwydiant llyfrau.

Mae diwydiant llyfrau Cymru yn ddibynnol ar nawdd o’r sector gyhoeddus, tra bod diwydiant gemau Cymru yn bodoli ar y cyfan yn hapus oddi ar y cynnyrch maen nhw’n creu.

Er mwyn i Enaid Coll ymddangos yn y Gymraeg mi oedd angen nawdd gan S4C Digidol ar gyfer y datblygwr, Wales Interactive. Pan mae’n dod at ei gêm nesaf, Soul Axiom, ni fydd yn ymddangos yn y Gymraeg.

Pam? Rhesymau marchnad a busnes (hynny yw, wnaeth ddim digon o bobl ddangos diddordeb yn y cynnyrch Cymraeg gwreiddiol yn ôl eu ffigyrau nhw) a dim digon o sylw gan wasg Gymreig.

Yn gyffredinol, ‘dyw Cymry sy’n siarad Cymraeg iaith gyntaf, ar hyn o bryd, ddim yn meddwl fod y diwydiant gemau werth eu hamser.

Mae hyn yn amlwg yn ein gwyliau Cymraeg, cerddoriaeth a llenyddiaeth ar y cyfan sy’n mynd â’n bryd. Nid cwyn yw hwn ond sylwebaeth.

Ailafael yn y Gymraeg

Felly, y cwestiwn mawr yw, pam fod pobl yn teimlo fod gemau yn rhywbeth estron i’r Gymraeg a pham fod cyn lleied o bobl hyd yn oed eisiau gwybod am y da gall gemau wneud ar gyfer dyfodol yr iaith? Atebion ar gardiau post os gwelwch yn dda!

Un enghraifft wych oedd dynes ddaeth atom ni ddydd Sul gyda chwestiynau am Minecraft. Mi roedd ei mab hi yn dechrau colli gafael a diddordeb yn y Gymraeg, a’r unig le oedd o’n defnyddio’r iaith yn rheolaidd oedd yn Minecraft (mae fersiwn wedi ‘modio’ yn y Gymraeg).

Mi oedd hi’n awyddus i ddeall os oedd o, wrth chwarae fersiwn Cymraeg, yn dal i fedru cysylltu efo’i gyfeillion yn rhedeg eu gemau nhw mewn ieithoedd eraill. Yr ateb oedd ei fod yn medru gwneud, a hwnna’n neud hi’n hapus dros ben!

Mae’n weddol syml – mewn brwydr, a brwydr ‘da ni ynddo, mae person yn defnyddio pob un arf bosib, hyd yn oed os mae person yn teimlo fod y ‘cynnyrch’ ddim ar eu cyfer nhw.

Felly dyma be weda’ i – cariwch ‘mlaen i feddwl fod gemau cyfrifiadurol ddim ar eich cyfer chi, dim problem, ond peidiwch anghofio bod cannoedd o filoedd o Gymry eraill yn gweld pethau yn wahanol, a miloedd o rheiny yn colli diddordeb yn y Gymraeg, a dim llawer yn y diwydiant i wneud iddyn nhw feddwl i’r gwrthwyneb.

Felly dwi am gychwyn ymgyrchu am Gyngor Gemau Cymru i neud yn siŵr fod  mwy nag un arf gennym ni yn mynd ymlaen i’r dyfodol.

Diolch yn fawr iawn i Huw Marshall am ei amser, ac i Ŵyl Golwg am gynnig platfform ac amser i ni. Mi fydd fideo o’n sesiwn banel yn ymddangos ar sianel YouTube Golwg360 yn nes ymlaen.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd