Elidir Jones a Daf Prys fu'n rhedeg y twrnament
Daf Prys fu’n sgwrsio â’r cystadleuwyr yng Ngŵyl Golwg dros y penwythnos …

Roedd digon o fwrlwm yn ystafell ddigidol Gŵyl Golwg eleni wrth i gystadleuaeth Mario Kart cyntaf Cymru gael ei gynnal – ac fe fu Daf Prys yn ffilmio’r cyfan.

Hon yw’r “gêm sy’n troi Cymru glân gloyw i mewn i regwyr proffesiynol”, yn ôl Daf, ac roedd yr awyrgylch gystadleuol yn amlwg wrth i gerbydau Mario, Yoshi a Donkey Kong sgrialu o gwmpas y trac i geisio cipio’r amser cyflymaf.

Cafodd Daf Prys gyfle i sgwrsio â rhai o’r cystadleuwyr ar ôl eu rasys ar gyfer Fideo Wyth golwg360, ac ambell un yn diawlio pawb ond eu hunain am y canlyniad.

Mae disgwyl adroddiad meddygol nôl unrhyw ddydd nawr ynglŷn ag anaf Huw Bryant i’w fawd wrth rasio – fe allai fod allan am weddill y tymor.

Mynnodd Dafydd Morgan mai’r GPS a mecanwyr y tîm oedd ar fai wrth iddo fethu allan ar le ar y podiwm.

Yn anffodus i Rhodri ap Dyfrig doedd ei ymarfer yoga o flaen llaw ddim wedi talu’i ffordd.

Ciron Gruffudd ddaeth yn drydydd, gyda Harry Hayfield yn ail, ac fe roddodd yr enillydd Iolo Cheung gyfweliad i Daf Prys oedd cystal ag y byddai unrhyw bêl-droediwr yn ei wneud: