Os ydych chi’n rhiant sydd wedi cael llond bôl ar eich plant yn gwrthod ateb y ffôn symudol, yna mae un fam yn credu ei bod hi wedi canfod ateb.

Mae Sharon Standifird o Texas wedi dyfeisio ap newydd ar gyfer ffonau smart sy’n eu galluogi hi i ‘gloi’ ffôn ei phlant o bell os yw hi’n teimlo eu bod yn ei gamddefnyddio.

Fe ddatblygodd Standifird yr ap ar ôl y rhwystredigaeth o geisio trwy’r dydd i gael gafael ar ei mab, Bradley.

Mae’r ap, o’r enw Ignore No More, nawr yn golygu’i bod hi’n gallu cloi ffôn ei mab os nad yw’n ateb ei galwad, gan olygu nad yw’n medru chwarae gemau, ffonio na thecstio unrhyw un arall.

Yr unig ffordd i ddatgloi’r ffôn yw ffonio rhif penodol – sef ‘Mam’, wrth gwrs.

“Mae’n rhaid i Bradley fy ffonio i oherwydd mai fi yw’r person sydd gyda’r cyfrinair i ddatgloi’r ffôn,” esboniodd Sharon Standifird wrth ABC News.

“Mae’n mynd a’r tecstio, chwarae gemau, a ffonio’i ffrindiau i ffwrdd.

“Mae’n rhaid dweud ei fod yn ateb fy nhecsts a fy ngalwadau’n llawer cynt nawr nag yr oedd e.”

Ymateb cymysg

Ar hyn o bryd mae’r ap, sydd yn costio £1.19, ond ar gael i ffonau Android ond mae’r fam o Texas eisoes mewn trafodaethau i ddatblygu fersiwn ar gyfer yr iPhone.

Unwaith y mae’r ffôn wedi’i gloi mae’n rhaid ffonio un o’r rhifau ar restr benodedig er mwyn cael y cyfrinair i’w ddatgloi – ond mae dal modd ffonio’r gwasanaethau brys.

Dywedodd Standifird fod yr ap wedi profi’n hynod o boblogaidd ymysg rhieni oedd a phryderon tebyg ynglŷn â’u plant.

Ond nid pawb sydd yn hapus â’r datblygiad.

“Roeddwn i’n meddwl ei fod yn syniad da, ond i bobl eraill, nid fi,” meddai ei mab Bradley.