Gareth Bale ar glawr y gêm bresennol
Mae Uwch Gynghrair Cymru’n annog cefnogwyr i bleidleisio er mwyn ei chynnwys ar fersiwn ddiweddaraf y gêm gyfrifiadur boblogaidd, Fifa 15.

Mae prif gynghreiriau Ewrop, gan gynnwys Lloegr, Yr Eidal a Sbaen eisoes yn ymddangos ar y gêm.

Ond mae pleidlais yn cael ei gynnal i benderfynu pa gynghreiriau newydd fydd yn cael eu hychwanegu’r tymor nesaf.

Fe allai olygu bod y sylwebyddion Martin Tyler ac Alan Smith yn ‘sylwebu’ ar ornestau rhwng rhai o dimau amlycaf Cymru.

Mae gwefan www.fifplay.com wedi cynnig tros 50 o awgrymiadau – o India i Indonesia.

Mae Uwch Gynghrair Cymru’n cefnogi’r ymgyrch.

Bydd y fersiwn ddiweddaraf hefyd yn cynnwys cystadleuaeth Cwpan y Byd fydd yn cael ei chynnal ym Mrasil yn yr haf.

Cafodd tîm rhyngwladol Cymru ei gynnwys ar y gêm am y tro cyntaf pan ryddhawyd FIFA 14 ym mis Medi llynedd.

Mae disgwyl i’r gêm gael ei rhyddhau ddiwedd mis Medi.