Daf Prys - ddim yn eistedd ar y ffens
Mae’n bryd i’r brifwyl foderneiddio – ac fe allai cystadleuaeth gemau cyfrifiadur annog pob math o fewnbwn creadigol, yn ôl Daf Prys …

Beth mae person yn gorfod ei wneud i fod yn ‘llwyddiannus’ yng Nghymru yw bod yn fardd, neu fod mewn band cachu o’r wythdegau/nawdegau. ‘Na fe wedyn, chi bobman – ar y radio/teli/ar lwyfan mewn gwyliau/cylchgronau/gwneud voiceovers ar gyfer hysbysebion ar Radio Ceredigion.

Os chi ddim yn digwydd bod yn fardd neu’n gynt o fand hollol gachu ac awydd bod ar un o’r uchod na phoener, mae dal cyfle i chi. Fe gewch chi fod yn academydd neu’n wleidydd.

Os chi ddim yn wleidydd neu’n academydd a bod chwant bod ar y radio/teli/hysbysebu garej anferthol yn agos i Gaerfyrddin yna rhaid i chi flacmelio pawb a phopeth (shwt chi’n meddwl fi’n blogio i golwg360?!).

Ond dyna yw’r dasg sy’n wynebu gwaith unrhyw un sy’n gweithio ym myd gemau cyfrifiadur yng Nghymru, achos does dim un ohonyn nhw’n eighties throwback a ‘dyn nhw ddim yn feirdd chwaith. Dim clowt chi’n gweld.

Dim clowt bibisi na chlowt esfforsi, sydd mwy neu lai’r unig clowt sydd gennym ni yn hedfan o gwmpas ein ffurfafen fach ni.

Gwell na’r Gwyll

Nes i helpu i gael stori am Enaid Coll/Master Reboot ar wefan Eurogamer, mwy neu lai cychwyn a diwedd outlet gemau cyfrifiadur yn Ewrop (ie, Ewrop gyfan), gyda’r nifer o pageviews mae’n siŵr yn bell o flaen y rheiny ar y cyfryngau Cymraeg, gan gynnwys y wefan hon.

Ond oedd unrhyw beth yn Y Cymro? Y Faner? Ar Radio Cymru? Sod ôl. Dyna wnes i oedd ffonio Eurogamer, anfon cwpl o screenshots a ‘na fe, mi oedd diddordeb ganddyn nhw, a gwir efo diddordeb yn y ffaith fod y gêm yn y Gymraeg a Saesneg.

Chi’n gwybod pa mor anodd yw e jyst cal e-bost rhywun o Radio Cymru heb sôn am ei sylw?

Pan nes i ddweud yn adolygiad Enaid Coll nad oeddwn yn deall cyn lleied o sylw wnaeth y gêm dderbyn do’n i ddim yn esgus. Fi *ddim* yn deall y peth.

Dwi yn deall fod ni’r Cymry yn dueddol o fod yn bobl sy’n hercio nôl i’r gorffennol, ond do’n i ddim yn sylweddoli bod anallu mor gryf i fedru edrych ymlaen.

Tra bod pobl yn chwythu’i balŵns dros ‘stori’ 35 Diwrnod ar Twitter dyw pobl jyst ddim yn ymateb o gwbl i lwyddiant anhygoel Wales Interactive efo Enaid Coll.

Mae gan y rhan fwyaf o bobl PC neu PlayStation, felly dangoswch nad geiriau gwag sydd gennych chi a chynorthwywch gwmni o Gymru sy’n trio rhywbeth hollol wahanol, ond hollol briodol i’n hamser.

Mae’r gêm yn wych, ac yn bwysicach byth i fi, mae’r naratif yn llawer cryfach nag unrhyw beth sydd wedi bod ar S4C ers degawdau, ac ie, mae hwnna’n cynnwys Y Gwyll.

Gallwch wylio adolygiad Fideo Wyth Daf Prys o Enaid Coll yma:

Her newydd i’r Eisteddfod

I sicrhau dyfodol disglair dylai cystadleuaeth sgwennu gemau cyfrifiadur fod yn rhan o’r Eisteddfod, a’r grefft fod yn rhan o ddosbarthiadau IT yn yr ysgol, gan gychwyn gyda Dosbarth Un (beth bynnag yw hwnna bellach).

Ymhen deng mlynedd gall fod ‘na genhedlaeth o Gymry gyda rhywbeth i anelu ato o fewn eu maes yn y blynyddoedd cynnar efo’r Eisteddfod, gyda gyrfa a sail gref yn aros amdanynt, a’r holl gynnwys yn cael ei greu yn y Gymraeg (gyda’r gallu i’w gyfieithu).

Gyda gwlad fechan chwim, gall Cymru fod ar flaen y gad mewn maes fel hyn. Ac mae creu gêm yn broses aml-gyfryngol – mae angen celf, cerddoriaeth, cynllunio, dylunio etc.

Does dim angen hyd yn oed meddwl am y peth, mae’n amlwg yn syniad da – na’i jyst fynd i ffeindio bardd i ddweud e fel bod pawb yn gwrando. Wel jiawl, mae Facebook newydd brynu Oculus Rift am $2biliwn, ac fe wnaeth hwnna gychwyn efo boi bach jyst yn pisan o gwmpas efo sgrin wedi selotepio i’w ben.

Anogaeth ni angen, a dychymyg hirdymor. Does dim syniad gwell wedi bod ers dod a dawnsio disgo fewn i’r Eisteddfod.

Oes lle i gemau cyfrifiadurol yn yr Eisteddfod? Gallwch drydar at Daf Prys ar @dafprys neu adael sylw isod.