Daf Prys
Daf Prys sy’n ystyried sut y mae cynnwys graffeg ac ymosodol gemau cyfrifiadurol yn golygu bod y diwydiant wedi gorfod datblygu eu dewis i blant …

I’r chwith. I’r dde. Neidio. Dyna beth oedd gemau yn arfer bod. Fi’n gweld eisiau’r dyddiau yna. Dim ond ddoe o’n i’n hedfan awyren, anfon cyfarwyddiadau i’n ffrindiau ar y llawr tra’n anelu roced at awyren arall tra ‘r’un pryd yn saethu ‘flares’ i osgoi rocedi oedd yn dod ata’i  oddi wrth danc ar y ddaear.

Chi’n gwybod faint o fotymau fi’n gorfod gwasgu i neud hwnna i gyd? I fod yn hollol onest ma’ fe’n flinedig tu hwnt.  Fi’m yn hollol siŵr os yw peilot go iawn, wrth hedfan awyren go iawn, yn gorfod gwasgu gymaint o fotymau!

Anodd iawn yw osgoi’r teimlad ’na fod pethau yn y gorffennol jyst, wel… jyst yn well. Yr Awr Fawr. Star Wars. Wham bars. Baw ci gwyn. Atlantic 252. Talking Heads! Queen!! (Well i fi stopio sgwennu am eiliad…)

Pwysigrwydd profiadau cynnar

Ma’ profiadau cyntaf yn rhai cryf iawn ac yn aml yn siapio pethau i ddod. Ma ‘diet’ cynnar i blentyn, er enghraifft, yn penderfynu’r blasau mae’r oedolyn yn mwynhau mewn bywyd hwyrach. ‘Na pam taw triog du ar dost sydd i frecwast pob dydd i fi. Uwd a siwgr brown weithiau fel trît.

Mae’r un broses yn llywio fy mherthynas i efo gemau cyfrifiadur: clasuron cynnar fel ‘Elite’, ‘Super Mario Land’, ‘Shadowrun’, ‘Knightlore’, ‘Mario Kart’, ‘Pyjamarama’ a ‘Manic Miner’ sy’n dominyddu rhestr o’n hoff gemau.

Ac ma’r gair ’na, ‘hoff’, yn bwysig, achos dwi’n sylweddoli taw nid y gemau gorau yw’r rhain – defnyddio’r galon ydw i yn hytrach na’r ymennydd.

Ydy hynny’n golygu nad ydw i’n medru cysylltu yn emosiynol efo gwrthrychau a phrofiadau creadigol tra’n oedolyn? Ai ond plant sy’n gallu creu perthnasau cryf hir-fywyd efo gweithredoedd creadigol? Felly pa brofiad gall blentyn ddisgwyl heddiw?

Oes yn newid

Mae’r gemau mwya’ grymus a’r rhai dwi’n cysylltu yn gryfach a hwy dyddiau yma oll yn rhai oedran 15 i fyny. Yn amlwg, pe bawn yng nghanol fy magwraeth heddiw ni fyddwn yn medru ei chwarae. Doedd dim byd tebyg nôl yn yr wythdegau gyda phlant yn chwarae’r un gemau ac oedolion.

Doedd dim llawer o ffordd i’r datblygwyr gynnig lluniau soffistigedig wrth gwrs, yn ‘Way of the Exploding Fist’ (gêm kung fu) dwi bron yn siŵr taw ond tua 16 animation oedd ar gael, ac yn Shinobi (y prif gymeriad oedd ninja efo cleddyf) doedd dim gwaed o gwbl, felly dim cyfyngiadau oedran.

Yr un profiad i blentyn ac oedd i oedolyn. Brawd ifanc, brawd hŷn, tad a mam oll yn chwarae’r un gemau.

Erbyn hyn, mae profiad plentyn ar y Playstation yn un llawer gwahanol. Mae graffeg gemau mor gywrain mae modd ail-greu unrhyw ddarlun. Pe bai’r gemau ‘Platoon’ neu ‘Cannon Fodder’ (gemau rhyfel ‘cartwnaidd’ o’r wythdegau) yn cael eu hail-greu heddiw mi fyddant yn edrych mwy fel ‘Call of Duty’ neu ‘Battlefield’.

Rhannu’r gemau

Felly mae’n amlwg fod gemau rhyfel y dyddiau yma yn dra gwahanol i’r rheiny 30 mlynedd yn ôl – mae gormod o drais ynddynt, a ble mae trais mae cyfyngiadau oedran.

Mae’r cyfyngiadau oedran yma wedi creu diwylliant newydd a gemau penodol ar gyfer plant. ‘Angry Birds’, ‘Ratchet and Clank’, Mario, unrhyw gêm Lego, ayyb. Yr un weithred sy’n digwydd mwy neu lai, chwalu pethau, saethu pethau, taflu pethau ond does dim breichiau a llygaid yn hedfan pobman.

Gan fod gemau ar gyfer plant yn unig nawr yn bodoli, dyna’r gemau ma’ nhw yn chwarae, ac oedolion yn chwarae gemau ar gyfer oedolion (ar y cyfan – ‘Viva Pinata’ yw’r gêm orau erioed). Felly dwi’n gorfod tybio, bydd cysyniad plentyn o’i byd cynnar yn debyg i fy un i? Fydd y plentyn yna, sy’n chwarae gem ‘plentynnaidd’ heddiw yn edrych nôl ar ei amser cynnar yn yr un ffordd ydw i? Ydy hwn yn bwysig?

Pwy a ŵyr – achos dyna gyd fi ishe neud ar hyn o bryd yw mynd i’r chwith, mynd i’r dde a neidio tra’n sglaffio wham bar.