Mae bron i 300,000 o “gynigion i geisio cael mynediad i wefannau sydd wedi eu categoreiddio fel pornograffi” wedi cael ei wneud o gyfrifiaduron yn y Senedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Cafodd y ffigyrau  eu rhyddhau gan benaethiaid TG Palas San Steffan mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan wefan yr Huffington Post.

Mae’r ffigwr yn cynnwys dyfeisiau sy’n gysylltiedig â’r Rhwydwaith Seneddol, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir gan ASau ac arglwyddi, eu staff a gweithwyr eraill.

Mae swyddogion wedi bod yn ceisio diystyru arwyddocâd y ffigyrau gan fynnu bod y  nifer yn uwch oherwydd pop-ups, auto-refresh a nodweddion dylunio eraill gwefannau, ac nid oedd yn adlewyrchu ymdrechion bwriadol i gael mynediad at gynnwys rhywiol.