Mae China wedi llwyddo i adeiladu cyfrifiadur cyflyma’r byd.

Mae ddwywaith mor gyflym â’r fersiwn o’r Unol Daleithiau, ac mae’n tanlinellu’r ffaith fod China’n prysur wneud ei henw ar lwyfan gwyddoniaeth a thechnoleg.

Fe gafodd y cyfrifiadur, Tianhe-2, ei ddatblygu ym Mhrifysgol Genedlaethol Technoleg Amddiffyn yn ninas Changsha, ac mae’n gallu prosesu 33.86 petaflop bob eiliad. Mae hynny’n cyfateb i gyfrifo 33,860 triliwn o bethau bob eiliad.

Ystyr yr enw ‘Tianhe-2’ ydi ‘Llwybr Llaethog-2’, ac mae’n bwrw peiriant ‘Titan’ yr Unol Daleithiau oddi ar frig rhestr y cyfrifiaduron cyflyma’ yn y byd. Mae’r Titan yn medru 17.59 petaflop yr eiliad.