Nick Clegg
Fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg yn cynnal sesiwn holi ac ateb wythnosol ar y radio mewn ymgais i ail-gysylltu gyda phleidleiswyr.

Fe fydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ateb galwadau gan wrandawyr ar orsaf radio Llundain LBC 97.3 gyda’r cyflwynydd Nick Ferrari am hanner awr bob bore dydd Iau.

“Rwy’n gwneud hyn gan nad ydw i’n credu bod gwleidyddion yn clywed digon am farn pobl yn uniongyrchol,” meddai Nick Clegg.

“Fedrwch chi ddim gwneud y peth iawn mewn llywodraeth os nad ydych chi’n cadw mewn cysylltiad efo sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo,” meddai.

Mae LBC 97.3 yn cael ei darlledu yn Llundain ond gellir ei glywed ar-lein ar draws y DU.