Huw Prys Jones yn trafod oblygiadau gwleidyddol y Cyngor Llafur yn Swydd Efrog a roddodd bropaganda ar blât i UKIP yr wythnos yma

Does gen i ddim oll i’w ddweud wrth athroniaeth wleidyddol UKIP. Mae eu cenedlaetholdeb Seisnig/Prydeinig yn wrthun gen  i. Ac fel rhywun sy’n credu mewn dinasyddiaeth fyd-eang, does gen i ddim byd ond dirmyg at eu syniadau hen-ffasiwn am annibyniaeth a sofraniaeth chwaith. Mae’r syniad y dylai gwladwriaeth gael rheolaeth absoliwt dros yr hyn sy’n digwydd o’i mewn, nid yn unig yn afrealistig, ond hefyd yn gwbl anaddas i’r byd sydd ohoni. Does ond rhaid edrych ar wledydd fel Syria neu Israel i weld mai gormod o sofraniaeth a phenrhyddid sydd gan wledydd y byd heddiw, nid rhy ychydig.

All rhywun felly ond gresynu at weld un o gynghorau Llafur Lloegr yn rhoi propaganda ar blât i UKIP, fel sydd wedi digwydd heddiw.

Mi allwn ni fod yn sicr y byddan nhw’n godro’r sefyllfa i’r eithaf – gan wybod bod tegwch o’u plaid yn yr achos yma. Mae pawb call am gytuno mai cwbl afresymol ydi gwarafun hawl rhieni maeth i fabwysiadu plant ar sail eu cred mewn annibyniaeth i’w gwlad – waeth pa mor anacronistig ydi’r gred honno.

Efallai fod safbwynt UKIP ar fewnfudo yn fwy dadleuol yng ngolwg rhai – ond mae’n sicr bod cefnogaeth gref i’w safbwynt ymhlith darllenwyr papurau fel y Daily Mail, y Daily Express a’r Telegraph, ac yn wir ymysg trwch poblogaeth Prydain. Ac ni ellir diystyru apêl eu harweinydd Nigel Farage chwaith – er ei fod yn ffigur eithaf comic, mae’n ymddangos fel cymeriad ag iddo dipyn mwy o bersonoliaeth na’r mwyafrif o’r robotiaid – gwrywaidd a benywaidd – ar fainc flaen Llafur.

Ond un peth sy’n sicr – mae Nigel Farage yn taro’r hoelen ar ei phen pan ddywed fod unrhyw un sy’n crybwyll y gair mewnfudo’n cael ei gyhuddo ar unwaith o fod yn hiliol. Onid ydi pawb sydd wedi datgan pryder am ddyfodol y Gymru Gymraeg wedi cael union yr un driniaeth gan Frigâd Gwleidyddiol Gywir y Blaid Lafur?

Felly all rhywun ddim llai na theimlo rhyw elfen o schadenfreude o ddatgan mai’r sgôr amlwg hyd yma ydi: UKIP 1, Cywirdeb Gwleidyddol 0.

*   *   *

Rhan o’r drwg yn y caws ydi fod yna elfen yn y chwith Seisnig sy’n ymhyfrydu mewn unrhyw esgus i gyhuddo rhywun o fod yn hiliol. Ac yn anffodus mae yna ormod o lawer o Gymry hefyd sy’n rhy barod i’w hefelychu.

Rydan ni’n hen gyfarwydd o weld cyhuddiadau o hiliaeth yn cael ei ddefnyddio gan y Blaid Lafur fel arf cyfleus yn erbyn gelynion gwleidyddol. Ond dw i’n meddwl hefyd fod yna rywbeth dyfnach ar waith. Mae fel petai gwrth-hilaeth – achos cyfiawn a theilwng os bu un erioed – yn cael ei ddefnyddio’r llawer rhy hawdd gan bobl sy’n hoff o bwyntio bys at eraill. ‘Dw i’n fwy gwrth-hiliol na’m cyd-ddyn’ ydi’r hyn mae’r bobl hunan-gyfiawn yma’n trio’i brofi.

Canlyniad hyn ydi nid yn unig lastwreiddio’r gair hiliaeth ond hefyd ymestyn ei ystyr i gynnwys unrhyw fath o stereoteipio, fel y gwelwyd efo’r gor-ymateb i rai o jôcs Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yr wythnos ddiwethaf. Bychanu hiliaeth ydi gwneud cyhuddiadau ysgubol fel hyn. Ac mae’r un peth yn wir am y cenedlaetholwyr Cymreig naïf rheini sy’n gwneud môr a mynydd pan fydd rhywun fel Jeremy Clarkson neu Ann Robinson yn dweud rhywbeth sarhaus am y Gymraeg.

Dwyn anfri ar wrth-hiliaeth y mae unrhyw sy’n gwneud cyhuddiadau gwamal. A thrwy hynny fychanu erchyllterau Buchenwald ac Auschwitch, gormes Apartheid yn Ne Affrica neu anghyfiawnder deddfau Jim Crow yn nhaleithiau deheuol America.

Mae hiliaeth yn air i’w ddefnyddio’n ddarbodus ac yn gyfrifol.  Fel arall, mae gen i ofn nad UKIP yn unig fydd yn elwa ond grymoedd tipyn mwy adweithiol yn ogystal.